Wrecsam 5–2 Macclesfield

Mae Wrecsam drwodd i rownd gyntaf y Cwpan FA ar ôl curo Macclesfield ar yr ail gynnig yn y bedwaredd rownd ragbrofol.

Yn dilyn gêm gyfartal ar Moss Rose nos Wener, bu rhaid ail chwarae ar y Cae Ras nos Fawrth, ond chafodd y Dreigiau ddim problemau y tro hwn wrth ennill yn gyfforddus, 5-2.

Yr ymwelwyr serch hynny a sgoriodd gyntaf pan beniodd Alex Grant y gôl agoriadol.

Tarodd Andy Bishop yn ôl gyda dwy gôl i’r tîm cartref cyn i Grant dderbyn cerdyn coch i Macclesfield.

Methodd Bishop gyfle i gwblhau ei hatric o’r smotyn ond rhoddodd Johnny Hunt ddwy gôl o fwlch rhwng y ddau dîm gyda thrydedd gôl y Dreigiau.

Caeodd Paul Turnbull y bwlch i un ond enillodd Wrecsam yn gyfforddus yn y diwedd diolch i goliau Neil Ashton a Nick Rushton.

Bydd Wrecsam yn herio Woking yn y rownd gyntaf ddechrau Tachwedd.