Lerpwl 2–1 Abertawe
Mae Abertawe allan o Gwpan y Gynghrair wedi i gôl hwyr Dejan Lovren eu trechu yn y bedwaredd rownd yn Anfield nos Fawrth.
Rhoddodd Marvin Emnes yr Elyrch ar y blaen cyn i Mario Balotelli daro nôl i Lerpwl. Yna, yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, derbyniodd Federico Fernández gerdyn coch dadleuol i’r ymwelwyr cyn i Lovren gipio’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.
Lerpwl oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ond di sgôr oedd hi ar yr egwyl.
Roedd Abertawe’n well yn yr ail gyfnod ac yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi ugain munud. Chwaraeodd Neil Taylor y bêl i’r cwrt cosbi dros ysgwydd Emnes a llwyddodd yntau, mewn un symudiad, i droi a tharo foli daclus i’r gornel isaf.
Cafodd y blaenwr gyfle da i ddyblu’r fantais dri munud yn ddiweddarach ond llwyddodd Brad Jones rhwng y pyst i Lerpwl i arbed yn gyfforddus.
Daeth Balotelli i’r cae wrth i Lerpwl chwilio am ffordd yn ôl, ac yntau a gafodd y gôl bedwar munud o ddiwedd y naw deg yn dilyn croesiad gwych i’r cwrt chwech gan gyn chwaraewr yr Elyrch, Fabio Borini.
Roedd hi’n ymddangos fod y gêm yn anelu am amser ychwanegol felly, cyn i’r dyfarnwr roi cerdyn coch i Fernández yn dilyn sialens 50/50 yn erbyn Philippe Coutinho.
Ac wrth i Fernández redeg bath cynnar yn yr ystafell newid, fe groesodd Coutinho ar gyfer y gôl fuddugol. Anelodd ei gic rydd tuag at y postyn pellaf, gwnaeth Taylor a Gerhard Tremmel draed moch llwyr ohoni a pheniodd Lovren i rwyd wag.
Bydd yr Elyrch yn gobeithio am well lwc wrth deithio i Lerpwl eto brynhawn Sadwrn i herio Everton yn yr Uwch Gynghrair.
.
Lerpwl
Tîm: Jones, Manquillo, K Touré, Lovren, Johnson, Lucas, Henderson, Markovic (Lallana 70′), Coutinho, Borini, Lambert (Balotelli 79′)
Goliau: Balotelli 86’, Lovren 90’
Cerdyn Melyn: Touré 90’
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Dyer (Routledge 67′), Fulton (Carroll 88′), Shelvey, Montero, Gomis (Bony 81′), Emnes
Gôl: Emnes 65’
Cardiau Melyn: Fulton 51’, Taylor 63’, Williams 82’
Cerdyn Coch: Fernández
.
Torf: 42, 582