Y Cae Ras - Wrecsam yn chwarae yno heno
Fe fydd Casnewydd yn wynebu talcen caled yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr wrth orfod teithio i Luton Town, sydd ar frig Adran Dau – uwchben y tîm o Gymru.
Ac, os bydd Wrecsam yn curo Macclesfield yn yr ailchwarae heno, fe fydd ganddyn nhw gêm gartref yn erbyn Woking.
Dyna ganlyniad y broses tynnu enwau neithiwr a’r nod mawr i’r ddau glwb ydi mynd trwy ddwy rownd arall er mwyn cael gobaith o chwarae un o dimau mawr y Bencampwriaeth neu’r Uwch Gynghrair yn y drydedd rownd.
Bydd gemau rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr yn cael eu chwarae ar benwythnos 8 Tachwedd.
Gêm heno i Wrecsam
Fe fydd Wrecsam yn herio Macclesfield unwaith eto heno ar ôl iddi orffen yn gyfartal 1-1 rhwng y ddau dîm yn y bedwaredd rownd ragbrofol nos Wener.
Mae’n golygu bod y gêm yn cael ei hailchwarae ar y Cae Ras heno, gyda’r Dreigiau’n gobeithio mai nhw fydd yn sicrhau lle yn y rownd nesaf er mwyn herio Woking.
Cyfartal oedd hi rhwng Wrecsam a Macclesfield y tro diwethaf i’r ddau dîm gyfarfod ar y Cae Ras hefyd, gyda’r canlyniad yn 2-2 rhwng y ddau nôl ym mis Awst.
Ddyddiau wedi’r gêm honno fe gollodd Wrecsam 2-1 gartref i Woking.
Ar hyn o bryd mae Wrecsam yn ddegfed yn y Gyngres, gyda Macclesfield yn seithfed a Woking yn drydydd.
Her yr Hatters
Fe fydd gan dîm Justin Edinburgh her fawr yn eu hwynebu wrth iddyn nhw geisio trechu Luton sydd ar frig eu tabl.
Newydd gael dyrchafiad o’r Gyngres y mae Luton, a dyw’r ddau glwb ddim wedi herio’i gilydd y tymor hwn eto.
Ond dyw Casnewydd eu hunain ddim yn gwneud rhy ffôl ac maen nhw bellach yn seithfed yn y tabl ar ôl rhediad o bedair gêm heb golli.