Gomis - cyfle i wneud argraff? (Llun: Twitter Abertawe)
Fe fydd Abertawe’n teithio i Anfield heno i herio Lerpwl gan obeithio efelychu’u camp yno ddwy flynedd yn ôl.
Ym mis Hydref 2012 fe deithiodd yr Elyrch i Lerpwl ym mhedwaredd rownd y cwpan ac ennill – cyn mynd ymlaen i gipio’r tlws yn Wembley ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
Gyda’r tîm yn llawn hyder ar ôl trechu Caerlŷr o 2-0 dros y penwythnos, fe fyddan nhw’n gobeithio cadw’r gobaith o geisio ailennill y gwpan yn fyw.
Fe drechodd Abertawe dîm arall o Lannau Mersi, Everton, yn gyfforddus o 3-0 gartref yn y rownd ddiwethaf.
Gofalus
Er bod Lerpwl ar rediad sâl ar hyn o bryd a dim ond wedi ennill tair o’u deg gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, mae chwaraewr canol cae Abertawe Tom Carroll yn wyliadwrus.
“Mae chwarae yn erbyn Lerpwl yn Anfield wastad yn anodd, ond rydyn ni’n hyderus ac yn edrych ymlaen,” meddai Carroll wrth wefan y clwb.
“Dyw Lerpwl ddim wedi dechrau cystal ag y gwnaethon nhw’r tymor diwethaf ond mae ganddyn nhw chwaraewyr gwych a dw i’n siŵr y bydd pethau’n mynd o’u plaid nhw’n fuan.
“Fe allwn ni ennill yn erbyn unrhyw un ar ein dydd felly rydyn ni’n edrych ymlaen ato.”
Newidiadau’n debygol
Bydd Carroll yn gobeithio dechrau’r gêm heno ar ôl dod oddi ar y fainc i Abertawe ar y penwythnos, wrth i’r rheolwr Garry Monk bendroni pa newidiadau fydd o’n gwneud i’r tîm.
Mae’n bosib y bydd yr ymosodwr Bafetimbi Gomis, yr asgellwr Jefferson Montero a’r Cymro Jazz Richards ymysg y chwaraewyr fydd yn cael cyfle i ddechrau’r gêm a chreu argraff.
Fe wnaeth Lerpwl hefyd nifer o newidiadau i’w tîm pan enillon nhw yn erbyn Middlesborough yn y rownd ddiwethaf ar giciau o’r smotyn.
Gallai hynny olygu ymddangosiad arall i’r Cymro Jordan Williams, a sgoriodd un o’r ciciau o’r smotyn hynny yn y rownd ddiwethaf, ac fe fydd Joe Allen hefyd yn gobeithio am gêm yn erbyn ei gyn-glwb wrth iddo barhau i adennill ei ffitrwydd wedi anaf.