Gareth Bale (CBDC/Propaganda)
Gareth Bale yw’r unig chwaraewr o wledydd Prydain sydd wedi cael ei gynnwys ar y rhestr hir o 23 ar gyfer gwobr chwaraewr gorau’r byd eleni.
Ond fe fydd rhaid i’r Cymro guro Lionel Messi, sydd wedi ennill y wobr bedair gwaith, a Cristiano Ronaldo a gipiodd y tlws llynedd, os yw am ennill gwobr FIFA, y Ballon d’Or – y bêl aur.
Un enw mawr sydd ar goll er gwaetha’ perfformiadau gwych y llynedd yw Luis Suarez, ymosodwr Barcelona a symudodd o Lerpwl dros yr haf.
Ond roedd hynn ar ôl iddo gael ei wahardd am bedwar mis yng Nghwpan y Byd am frathu gwrthwynebwr.
Pump o’r Uwch Gynghrair
Mae’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr ar y rhestr yn chwarae i glybiau yn Sbaen, gyda dim ond pump o Uwch Gynghrair Lloegr – Diego Costa, Thibaut Courtois ac Eden Hazard o Chelsea, Angel di Maria o Manchester United a Yaya Toure o Manchester City.
Yn ogystal â Bale a Ronaldo mae pedwar arall o chwaraewyr Real Madrid, a enillodd Gynghrair y Pencampwyr eleni, ar y rhestr – Karim Benzema, Toni Kroos, Sergio Ramos a James Rodriguez.
Mae chwech o dîm buddugol yr Almaen yng Nghwpan y Byd hefyd ar y rhestr gan gynnwys Mario Gotze, ymosodwr Bayern Munich a sgoriodd unig gôl y gêm i drechu’r Ariannin yn y ffeinal.
Mae rhestr Hyfforddwr y Flwyddyn yn cynnwys yr Jose Mourinho, Louis Van Gaal a Manuel Pellegrini o Uwch Gynghrair Lloegr.
Blwyddyn Bale
Mae’r enwebiad yn dod ar ôl blwyddyn lwyddiannus iawn i Gareth Bale hyd yn hyn yn 2014, wrth iddo ennill Cwpan Ewrop a’r Copa del Rey gyda Real Madrid a sgorio’r goliau tyngedfennol yn y ddwy ffeinal.
Ar hyn o bryd mae’r asgellwr allan gydag anaf a dyw hi ddim yn glir eto a fydd yn holliach ar gyfer gêm ragbrofol nesaf Ewro 2016 Cymru yng Ngwlad Belg ar 16 Tachwedd.
Hyd yn hyn eleni, ar ddiwedd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid ac ar ddechrau’i ail, mae wedi sgorio 18 gôl mewn 39 gêm dros y clwb.
Mae hynny wedi helpu sefydlu lle Bale yn aelod allweddol o dîm y cewri o Sbaen, a hynny ar ôl iddo symud yno o Spurs yn 2013 am bris mwya’r byd o £85m.
Mae hefyd wedi chwarae bedair gwaith dros Gymru yn y cyfnod hwnnw a sgorio tair – un yn erbyn Gwlad yr Ia ym mis Mawrth a dwy yn erbyn Andorra ym mis Medi.
Fe fydd y rhestr hir ar gyfer y Ballon d’Or 2014 yn cael ei leihau i dri ym mis Rhagfyr, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ym mis Ionawr 2015.
Dyma’r ail dro i Bale gael ei enwebu ond dim ond un Cymro sydd wedi dod yn agos at y wobr – John Charles, a ddaeth yn drydydd yn yr 1950au.
Enwebiadau Ballon d’Or: Gareth Bale, Cristiano Ronaldo, Karim Benzema, Lionel Messi, Thibaut Courtois, Eden Hazard, Diego Costa, Angel di Maria, Yaya Toure, Mario Gotze, Zlatan Ibrahimovic, Andres Iniesta, Toni Kroos, Philipp Lahm, Javier Mascherano, Thomas Muller, Manuel Neuer, Neymar, Paul Pogba, Sergio Ramos, Arjen Robben, James Rodriguez, Bastian Schweinsteiger
Enwebiadau Hyfforddwr y Flwyddyn: Jose Mourinho, Louis van Gaal, Carlo Ancelotti, Antonio Conte, Pep Guardiola, Jurgen Klinsmann, Joachim Low, Manuel Pellegrini, Alejandro Sabella, Diego Simeone