James Collins
Roedd James Collins yn graig yn amddiffyn West Ham wrth iddyn nhw syfrdanu Man City ac ennill o 2-1, gan gyfrannu taclau hollbwysig yn hwyr yn y gêm wrth i’r ymwelwyr geisio unioni’r sgôr.
Enillodd Abertawe 2-0 yn erbyn Caerlŷr gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn y tîm unwaith eto, a doedd yr ugain munud gafodd Andy King i’r ymwelwyr ddim yn ddigon i wyrdroi’r canlyniad.
Cafodd Joe Allen ei eilyddio ar ôl awr wrth i Lerpwl gael gêm gyfartal ddiflas gartref yn erbyn Hull, gyda James Chester yn rhan o amddiffyn yr ymwelwyr gadwodd lechen lân.
Chwaraeodd Paul Dummett gêm lawn i Newcastle wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth annisgwyl o 2-1 yn erbyn Spurs, oedd â Ben Davies ar y fainc.
Ennill 2-0 yn Sunderland wnaeth Arsenal, gydag Aaron Ramsey yn ymddangos oddi ar y fainc am ddwy funud yn unig ar ôl dechrau yn Ewrop yn erbyn Anderlecht yng nghanol yr wythnos.
Ac fe wnaeth Wayne Hennessey ei ymddangosiad cyntaf yn yr Uwch Gynghrair i Crystal Palace y tymor yma wrth i’w dîm ef a Joe Ledley gael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn West Brom.
Daeth Hennessey i’r cae ar ôl 55 munud wedi i Julian Speroni gael ei eilyddio ar ôl cael clec – er ei fod o’n mynnu’i fod yn iawn – gyda Palace 2-1 ar y blaen ar y pryd cyn ildio cic o’r smotyn hwyr.
Y cynghreiriau eraill
Yn y Bencampwriaeth fe gafodd David Cotterill brynhawn trychinebus yn erbyn Bournemouth wrth iddyn nhw golli gartref o 8-0. Ie, wyth!
O fewn chwe munud roedden nhw gôl ar ei hôl hi a lawr i ddeg dyn, ac erbyn i Cotterill ildio cic o’r smotyn ar gyfer chweched gôl Bournemouth roedd y rhan fwyaf o’r cefnogwyr cartref wedi hen adael y stadiwm.
Daeth Craig Davies oddi ar y fainc yn y munudau olaf i Bolton wrth iddyn nhw amddiffyn eu mantais yn erbyn Brentford, a rhwydo gôl yn yr amser ychwanegol i sicrhau buddugoliaeth o 3-1.
Chwaraeodd Emyr Huws 70 munud wrth i Wigan frwydro nôl i gipio buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Derby, er ei fod wedi gadael y cae erbyn i’w dîm sgorio’r gôl fuddugol hwyr.
Creodd Steve Morison gôl Leeds wrth iddyn nhw fynd ar y blaen yn erbyn Wolves, cyn i dîm Lee Evans a Dave Edwards frwydro nôl i ennill 2-1.
Cafodd Joel Lynch gêm lawn i Huddersfield wrth iddyn nhw frwydro nôl i gael gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Ipswich, oedd heb Jonathan Williams.
Ac yng ngweddill gemau’r gynghrair fe chwaraeodd David Vaughan, Chris Gunter, Hal Robson-Kanu, Jake Taylor a Craig Morgan.
Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Gwion Edwards i Crawley a Tom Bradshaw i Walsall gyda Lewin Nyatanga, Josh Pritchard, Joe Walsh a James Wilson hefyd yn chwarae i’w clybiau, yn ogystal ag Adam Matthews ac Ash Taylor yn yr Alban.
Un arall sydd wedi bod yn dal y sylw yn Yr Alban ydy Marley Watkins o Inverness Caledonian Thistle a sgoriodd y gôl fuddugol wrth i’w dîm drechu Dundee United. Dyma oedd ei bedwaredd gôl o’r tymor.
Seren yr wythnos – James Collins. Serennu i West Ham wrth iddyn nhw guro’r pencampwyr, ac maen nhw bellach yn bedwerydd yn y tabl.
Siom yr wythnos – David Cotterill. Canlyniad trychinebus i’w glwb.