Doedd dim amheuaeth pwy oedd seren y gêm draw yng Ngerddi Franklins ddydd Sadwrn, ond yn anffodus i’r Gweilch nid Cymro o’u plith nhw oedd e.

Cafodd yr ymwelwyr grasfa o 34-6 gan Northampton a hynny diolch i un dyn, George North, a sgoriodd bob un o’u pedair cais.

Roedd cryfder a chyflymder North yn llawer rhy dda i’r Gweilch, gyda’r Cymro’n creu’r pedwerydd cais ei hun drwy rwygo’r bêl gan un o’i wrthwynebwyr cyn ei chicio i lawr yr asgell a chyrraedd yno’n gynt na thri amddiffynnwr i sicrhau pwynt bonws.

Fe allai Northampton fod wedi sgorio dau gais arall petai’r dyfarnwr heb fynd at y sgrin i weld a oedd pas wedi mynd ymlaen – cweir go iawn i’r Gweilch felly.

Yng ngemau eraill Cwpan Pencampwyr Ewrop dechreuodd Jamie Roberts a Luke Charteris, ac fe ddaeth Mike Phillips oddi ar y fainc, wrth i Racing Metro ennill 26-10 i ffwrdd yn Treviso.

Trosodd Leigh Halfpenny ddau gais a chicio tair cic gosb wrth i Toulon sicrhau buddugoliaeth allweddol o 23-13 draw yn Ulster.

Cic gosb Owen Williams oedd yr unig bwyntiau a sgoriodd Caerlŷr wrth i’r Scarlets ennill o 15-3 nos Sadwrn o flaen eu torf gartref.

Fe enillodd Clermont a Jonathan Davies yn gyfforddus o 35-3 yn erbyn tîm Sale Eifion Lewis-Roberts, Marc Jones a Jonathan Mills, ond siom oedd gweld Davies yn dod oddi ar y cae ag anaf fydd yn ergyd i’w obeithion o chwarae dros Gymru yn yr hydref.

Colli o drwch blewyn wnaeth Caerfaddon gartref yn erbyn Toulouse o 19-21, gyda Paul James a Dominic Day yn dechrau a Gavin Henson ar y fainc.

Colli wnaeth Bradley Davies a Will Taylor gyda Wasps wrth iddyn nhw gael eu trechu 16-23 gan Harlequins, y tro olaf i’r ddau dîm wynebu’i gilydd mewn darbi Lundeinig cyn i Wasps symud i Coventry.

Ac fe ddaeth Rhys Gill oddi ar y fainc wrth i’w dîm ef, Saracens, golli 14-3 i Munster ym Mharc Thomond.

Yng Nghwpan Her Ewrop llwyddodd Caerloyw i drechu Oyonnax 25-15 gyda James Hook a Richard Hibbard yn y tîm, ac fe drechodd Gwyddelod Llundain Grenoble o’r un sgôr gydag Andy Fenby a Darren Allinson yn chwarae’u rhan.

A Rob Lewis a James Lewis oedd yr unig ddau Gymro yn nhîm Cymry Llundain nos Iau wrth iddyn nhw gael crasfa arall o 20-52 yn erbyn Bordeaux-Begles – dim ond yr ail waith y tymor hwn y mae’r tîm wedi cyrraedd ugain pwynt.

Seren yr wythnos – George North. Bydd angen North yn tanio fel hyn fis nesaf gyda’r anafiadau sydd gan Gymru ar hyn o bryd.

Siom yr wythnos – Jonathan Davies. Y diweddaraf o ganolwyr Cymru i gael ei anafu, ac mae gan Gatland gur pen.