Derwyddon Cefn 1–1 Airbus
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi ar y Graig brynhawn Sul wrth i Airbus ymweld â Derwyddon Cefn yn Uwch Gynghrair Cymru.
Rhoddodd Ellis Healing Airbus ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Lee Healey ddod oddi ar y fainc i achub pwynt i’r tîm cartref.
Airbus oedd y tîm gorau cyn yr egwyl ond prin oedd y cyfleoedd mewn hanner cyntaf cymharol ddiflas.
Cafwyd dipyn mwy o gyffro wedi’r egwyl, gan ddechrau gyda gôl Healing wedi pum munud. Daeth Glenn Rule o hyd iddo gyda phas hir ac fe roddodd yntau’r bêl yn daclus yn y gornel isaf.
Cafodd Chris Budrys a Tom Field gyfleoedd da i ddyblu mantais yr ymwelwyr ond cafodd peniad Budrys ei chlirio oddi ar y llinell a llusgodd Field ei ergyd heibio’r postyn.
Yna, yn y chwarter awr olaf fe ddechreuodd dau eilydd, Karl Noon a Healey, greu argraff i’r tîm cartref.
Methodd Noon gyfle da ei hun cyn creu gôl i Healey, Noon â’r croesiad cywir a Healey â’r peniad yn y canol.
Cafodd Noon gyfle gwych i’w hennill hi ym munud olaf y naw deg yn dilyn cyd chwarae da ato gyda Healey ond heibio’r postyn yr aeth ei ergyd.
Cafodd Ryan Edwards gyfle da i’w hennill hi i’r Derwyddon hefyd ond gwnaeth James Coates arbediad arbennig i’w atal.
Ac roedd digon o amser ar ôl i sgoriwr Airbus, Healing, fethu peniad rhydd i gôl agored, wrth i’r gêm orffen yn gyfartal er gwaethaf deg munud olaf gwyllt.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Derwyddon yn wythfed yn y tabl ac yn codi Airbus i’r trydydd safle, naw pwynt y tu ôl i’r Seintiau ar y brig. Mae’r ddau dîm yn herio’i gilydd yr wythnos nesaf.
.
Derwyddon Cefn
Tîm: Glover, Beech (Hoy 46’), Fernandes, Rimmer, Hesp, Jones, Breeze, Taylor, Bull (Noon 72’), Donegan (Healey 58’), Edwards
Gôl: Healey 81’
Cardiau Melyn: Jones 76’, Rimmer 84’
.
Airbus
Tîm: Coates, Pearson, Field (Eyre 80’), Jones, Rule, Budrys, Barrow (Owen 74’), Healing, Short, McGinn, Owens
Gôl: Healing 50’
.
Torf: 327