Sgarlets 15 – 3 Caerlŷr

Mewn gêm lawn camgymeriadau, cipiodd y Sgarlets fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn un o’u gelynion hynaf yng nghystadleuthau Ewropeaidd.

Yr ymwelwyr ddechreuodd orau ar Barc y Sgarlets, a chyn-chwaraewr y rhanbarth o’r Gorllewin, Owen Williams, yn cicio pwyntiau cyntaf y tîm o Loegr.

Rhoddwyd cais ar blât i’r tîm cartref funudau’n ddiweddarach wrth i Miles Benjamin ollwng y bêl 10 llath o’i linell gan roi cyfle i Harry Robinson groesi am gais.

Methodd Rhys Priestland y trosiad, a gwastraffodd ddwy gic gosb i ymestyn y fantais i’w ddîm cyn gofyn i Steve Shingler, oedd wedi dod i’r cae wedi anaf i Scott Williams, gymryd y dyletswyddau cicio.

Llwyddodd Shingler gyda’i gic gyntaf, cyn methu gydag un arall i olygu mai 8-3 oedd y sgôr ar yr hanner.

Er gwaethaf y sgôr isel, roedd yr ail hanner yr un mor gyffrous a’r cyntaf, a’r ddau dîm yn ceisio ymosod bob cyfle, ond ar yr un pryd yr un mor debygol o wneud camgymeriad a’i gilydd.

A chamgymeriad arall gan yr ymwelwyr arweiniodd at yr ail gais i’r Sgarlets – wrth or-gymhlethu symudiad o sgrym, ryng-gipiodd mewnwr y Sgarles a seren y gêm, Aled Davies, ar y llinell hanner i frasgamu’n glir tuag at linell gais yr ymwelwyr.

Roedd Sosban Fach a Hen Wlad Fy Nhadau’n atseinio trwy Barc Y Sgarlets wrth i’r cefnogwyr cartref fwynhau buddugoliaeth felys yn erbyn tîm sydd wedi chwalu eu gobeithio sawl gwaith mewn cystadleuthau Ewropeaidd.