Stoke 2–1 Abertawe

Colli fu hanes Abertawe yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul er iddynt fynd ar y blaen yn y gêm yn erbyn Stoke yn Stadiwm Britannia.

Rhoddodd Wilfred Bony fantais i’r Elyrch ond unionodd Charlie Adam o’r smotyn cyn yr egwyl cyn i Jonathan Walters ei hennill hi i Stoke yn yr ail hanner.

Abertawe oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf ac roeddynt yn haeddianol ar y blaen wedi 34 munud ar ôl i Bony sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd arno gan Ryan Shawcross.

Ond roedd Stoke yn gyfartal ddau funud cyn yr egwyl wedi i Victor Moses ennill cic o’r smotyn braidd yn ddadleuol i’r tîm cartref. Sgoriodd Adam hi, 1-1 ar hanner amser.

Roedd Stoke yn well yn yr ail gyfnod ac fe aethant ar y blaen chwarter awr o’r diwedd wrth i ddau eilydd gyfuno, Oussama Assaidi’n croesi a Walters yn penio i gefn y rhwyd.

Fe bwysodd yr Elyrch am gôl i geisio achub pwynt yn y munudau olaf ond daliodd Stoke eu gafael ar y tri phwynt.

Mae Abertawe’n disgyn i’w wythfed safle yn y tabl yn dilyn y canlyniad.

.
Stoke
Tîm:
Begovic, Bardsley, Shawcross, Wilson, Pieters, N’Zonzi, Adam, Diouf, (Walters 62′), Ireland (Cameron 62′), Moses (Assaidi 73′), Crouch
Goliau: Adam [c.o.s.] 43’, Walters 76’
Cardiau Melyn: Shawcross 33’, Diouf 35’, Bardsley 45’, N’Zonzi 89’
.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Rangel, Fernández, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Carroll (Gomis 65′), Dyer (Montero 65′), Sigurdsson, Routledge, Bony
Gôl: Bony [c.o.s.] 34’
Cerdyn Melyn: Bony 75’
.
Torf: 27,017