Caerdydd 2–1 Nottingham Forest

Cafodd Russel Slade y dechrau perffaith i’w gyfnod wrth y llyw yng Nghaerdydd gyda buddugoliaeth yn erbyn tîm o frig y Bencampwriaeth, Nottingham Forest, brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Federico Macheida a Peter Wittingham i’r Adar Gleision yn yr hanner cyntaf ac fe ddaliodd y tîm cartref eu gafael er i Britt Assombalonga dynnu un yn ôl i’r ymwelwyr yn hwyr yn y gêm.

Hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf oedd hi pan orffennodd Macheida wrthymosodiad mewn steil i rwydo’r gyntaf yn dilyn gwaith da Aron Gunnarsson yn gynharach yn y symudiad.

Roedd hi’n ddwy bum munud yn ddiweddarach pan ddisgynnodd y bêl yn garedig i Wittingham tu allan i’r cwrt cosbi cyn iddo ganfod cefn y rhwyd gydag ergyd nodweddiadol.

Bu bron i Sean Morrison benio trydedd i Gaerdydd ond gwnaeth Karl Darlow rhwng y pyst i Forest yn dda i’w atal.
Roedd y tîm cartref dan bwysau yn y munudau olaf a phan sgoriodd Assombalonga’n dilyn gwaith da Michail Antonio ar y dde, roedd pum munud anodd yn wynebu Caerdydd.

Ond daliodd tîm Slade eu gafael i sicrhau buddugoliaeth sydd yn eu codi, am y tro, i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl.

.
Caerdydd


Tîm: Marshall, Brayford, Ecuele Manga, Morrison, Ralls, Pilkington, Gunnarsson (Adeyemi 66′), Whittingham, Noone, Le Fondre, Macheda (Jones 62′)
Goliau: Macheda 22’, Wittingham 27’
Cerdyn Melyn: Noone 45’
.
Nottingham Forest

Tîm: Darlow, Hunt (Veldwijk 77′), Mancienne, Wilson, Lichaj (Harding 45′), Tesche, Burke, Antonio, Lansbury (Vaughan 57′), Fryatt, Assombalonga
Gôl: Assombalonga 89’
Cardiau Melyn: Wilson 41’, Lansbury 54’, Assombalonga 88’
.
Torf: 21,263