Cafodd rhai o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr.

Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal yn flynyddol ac maen nhw’n cynnig y cyfle i’r ddinas sy’n eu cynnal i arddangos ei hanes ym myd chwaraeon, ei chyfleusterau, ei thimau a’i chyfleoedd i gymryd rhan ym myd y campau.

Cawson nhw eu cynnal eleni mewn partneriaeth â Nation Radio, prif orsaf radio Caerdydd.

Aeth y prif wobrau i’r seiclwr Geraint Thomas (Chwaraewr y Flwyddyn) ac enillydd medal aur gyntaf erioed Cymru mewn jiwdo yng Ngemau’r Gymanwlad, Natalie Powell (Chwaraewraig y Flwyddyn).

Y bara-athletwraig Josie Pearson, enillydd y fedal arian yn y taflu pastwn ym Mhencampwriaeth Athletau Ewrop yr IPC yn Abertawe, gipiodd y wobr am Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Aeth y wobr am Berfformiad y Flwyddyn i’r bencampwraig gymnasteg, Frankie Jones am ei llwyddiant yn Glasgow, a thîm gymnasteg rhythmig Cymru gipiodd deitl Tîm y Flwyddyn.

Tîm Hŷn y Flwyddyn eleni oedd y Tiger Bay Brawlers, tîm ‘Roller Derby’ sydd wedi’i leoli yn y brifddinas ac aeth y wobr am Dîm Ifanc y Flwyddyn i dîm rygbi dan 16 ysgol Whitchurch High.

Dan Bufton, hyfforddwr para-athletau blaenllaw, gipiodd y wobr am Hyfforddwr Anabledd y Flwyddyn, tra bod Sean Phillips, hyfforddwr rygbi cymunedol wedi ennill gwobr Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn.

Pencampwr Decathlon Prydain, Curtis Matthews oedd yn fuddugol yng nghategori Myfyriwr y Flwyddyn, ac un o ddisgyblion Ysgol Gyfun Glantaf, Gwen Baynham gafodd ei henwi’n Wirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn.

Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn oedd Harri Jenkins, tra bod Dave Haller wedi ennill Gwobr Cyfraniad Oes am 47 o wasanaeth i’r byd nofio.