Ashley Williams (llun: CBDC)
Mae capten Cymru Ashley Williams wedi cyfaddef ei fod wedi ail-fyw’r cyfle euraidd a gafodd yn erbyn Bosnia nos Wener drosodd a throsodd.
Wrth i Gymru wthio am gôl hwyr i geisio cipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Bosnia, fe beniodd Williams gyfle gwych dros y trawst o ddim ond chwe llathen.
Fe fethodd Gareth Bale a Hal Robson-Kanu gyfleoedd hwyr hefyd – ond yn ôl y capten, ei un ef oedd y cyfle hawsaf.
“Fi’n falch o’r perfformiad, byddai wedi bod yn neis cael y fuddugoliaeth [yn erbyn Bosnia],” meddai Ashley Williams.
“Fi wedi ail-fyw’r cyfle yna drosodd a throsodd.
“Allai ddim ei ail-fyw mwy i fod yn onest, fi wedi’i wylio fe nôl filiwn o weithiau! Gyda’n record sgorio i fi ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi disgwyl unrhyw beth arall.
“Ond roedd e’n gyfle gwych, y cyfle gorau, rhywbeth mae’n rhaid i fi wella ar, dwi dal yn cicio fy hun.”
Llechen lân
Serch hynny fe gadwodd Cymru lechen lân yn erbyn Bosnia, y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny ers blwyddyn, pan lwyddon nhw i drechu Macedonia 1-0.
Ac yn ôl Williams, mae hynny’n rhannol oherwydd y bartneriaeth newydd sydd yn datblygu rhyngddo ef a James Chester yn y cefn.
“Fe gadwon ni lechen lân, oedd yn beth da, dyna beth yw’n swydd i,” meddai’r amddiffynnwr.
“Fi’n mwynhau chwarae gyda fe [Chester], mae’n chwaraewr da. Fi’n meddwl y cafodd e gêm dda noson o’r blaen, mae’n foi neis hefyd a fi’n dod ‘mlaen gyda fe oddi ar y cae.
“Mae wedi setlo’n dda ac mae’n ychwanegiad da i’r garfan.”
Sylw ar Gyprus
Mae’r sylw nawr yn troi tuag at y gêm yn erbyn Cyprus nos Lun, ac fe fydd Cymru’n aros ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 gyda buddugoliaeth yn erbyn y gwrthwynebwyr.
Ac mae’n rhaid cael tri phwynt gartref yn erbyn pumed detholiad y grŵp, yn ôl y capten.
“Unrhyw beth llai na thri phwynt nawr a dyw e ddim yn edrych cystal ag y dylai,” meddai Williams.
“Felly os ydyn ni ar saith pwynt o’r tair gêm gyntaf fe fuasai hynny’n dda iawn.
“Rydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw [Cyprus], rydyn ni gwybod eu bod nhw’n dîm peryglus, gyda beth ddigwyddodd yn erbyn Bosnia [pan enillodd Cyprus yn syfrdanol yng ngêm agoriadol y grŵp].”