Ashley Williams

Mae’n rhaid i Gymru ennill yn erbyn Bosnia-Herzegovina os ydyn nhw eisiau gwneud yn dda yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016, yn ôl y capten Ashley Williams.

Bydd tîm Chris Coleman yn chwarae gêm gartref gyntaf eu hymgyrch nos fory yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac mae disgwyl i’r lle fod yn llawn am y tro cyntaf erioed i gêm Cymru.

Fe fydd Bosnia’n wrthwynebwyr peryglus, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw wedi colli’u gêm gyntaf yn annisgwyl i Gyprus, a hynny oherwydd mai nhw yw prif ddetholiadau’r grŵp a’u bod wedi cyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil eleni.

Ac mae’r capten yn mynnu fod yn rhaid cael canlyniad yn eu herbyn os yw Cymru o ddifrif am orffen yn y ddau safle uchaf, fyddai’n golygu cyrraedd Ewro 2016 heb orfod mynd drwy gemau ail gyfle.

Disgwyliadau uchel

“Mae’n gêm rydyn ni’n teimlo os ydyn ni am wneud unrhyw beth, fod yn rhaid ei hennill a dweud y gwir,” meddai Williams.

“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd, gêm i ddynion, maen nhw’n amlwg yn dîm corfforol cryf, ac fe fydd yn rhaid i ni fynd a’r gêm iddyn nhw gan ein bod ni gartref, rydyn ni eisiau gosod ein stamp ar y gêm.

“Fel grŵp rydyn ni’n glos, yn agos, rydyn ni’n mwynhau cwmni’n gilydd, ac ar y cae rydyn ni’n nabod gêm ein gilydd.

“Felly dyw hynny ddim yn esgus bellach, mae’r wlad gyfan yn disgwyl pethau mawr gan y grŵp yma.”

Hwb y dorf

Er gwaethaf yr anafiadau sydd wedi taro’r garfan, gan gynnwys y chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey a Joe Allen, mae disgwyl i’r stadiwm sydd yn dal 33,000 fod yn llawn.

Dyw hynny erioed wedi digwydd yng ngyrfa ryngwladol Ashley Williams, yn ôl y capten, ac mae’n gobeithio fod y tîm am wneud y mwyaf o hynny.

“Dw i jyst yn teimlo fod gan bawb deimlad da am hyn, fel chwaraewyr dyma beth rydyn ni wedi bod yn gofyn am ers sbel,” meddai Williams.

“Mae’r cefnogwyr nawr wedi gwneud eu rhan, felly mae e lan i ni i fynd mas fory a rhoi perfformiad da ac ennill, allai ddim aros i fynd mas gyda’r holl leisiau yna tu cefn i ni.

“Dw i erioed wedi chwarae o flaen torf lawn i Gymru o’r blaen, felly dw i wir yn edrych ymlaen. Pan mae gennych chi lawer o sŵn y tu cefn i chi weithiau mae’n rhoi’r 5% ychwanegol yna i chi pan rydych chi wedi dechrau blino.

“Mae cefnogwyr cartref rhai gwledydd yn ei gwneud hi’n anodd, anodd iawn, a dyw e byth yn neis, felly os allwn ni wneud y lle yma’n gadarnle ar gyfer yr ymgyrch hon fe fydd hynny’n help mawr.”

Bygythiad Bosnia

Fe fydd gan Williams noson brysur o’i flaen wrth geisio cadw ymosodwyr Bosnia Edin Dzeko a Vedad Ibisevic yn ddistaw.

Ond mae wedi chwarae yn erbyn y ddau o’r blaen, ac er gwaethaf ei edmygedd mae’n hyderus yng ngallu tîm Cymru i’w ffrwyno.

“Mae [Dzeko] yn gryf, yn symud yn dda, weithiau dyw e ddim yn cael y clod mae’n haeddu, dw i’n meddwl ei fod yn chwaraewr da, a chi wastad yn gwybod cewch chi gêm anodd yn ei erbyn.

“Dw i wastad yn ei weld fel sialens chwarae yn erbyn ymosodwr o’r safon uchaf, Ibisevic hefyd, mae e’n dda iawn, dw i wedi chwarae yn ei erbyn e o’r blaen.

“Felly mae eu hymosod nhw lan yna gyda goreuon y byd mae’n siŵr, ac fe fydd rhaid i ni fod yn barod am hynny.”