Gareth Bale
Gareth Bale wedi gosod record newydd ar ôl ennill tlws pêl-droediwr Cymreig y flwyddyn am y pedwerydd tro mewn pum mlynedd.

Mae Mark Hughes a John Hartson wedi derbyn gwobr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar dri achlysur yr un, ond does neb wedi ennill y wobr bedair gwaith.

Fe wnaeth seren Real Madrid gadw’r tlws yng nghinio gwobrwyo Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Gareth Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr, yr UEFA Super Cup a’r Copa del Rey gyda Real Madrid, tra bod ei berfformiadau dros Gymru hefyd wedi ennyn sylw.

Mae’r chwaraewr 25 mlwydd oed wedi sgorio 10 gwaith yn ei 11 gêm ryngwladol ddiwethaf.

Cafodd yr amddiffynnwr Ben Davies ei enwi fel chwaraewr ifanc y flwyddyn ar ol symud o Abertawe i Tottenham.

Cafodd capten Abertawe, Ashley Williams, hefyd ei wobrwyo unwaith eto am ei berfformiadau yn Stadiwm Liberty drwy ennill chwaraewr clwb y flwyddyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Hefyd, cafodd capten tîm merched Cymru, Jess Fishlock, ei anrhydeddu fel chwaraewr benywaidd y flwyddyn am y pedwerydd tro’n olynol.