Rhydychen 1–0 Casnewydd

Colli fu hanes Casnewydd yn Stadiwm Kassam brynhawn Sadwrn er i’r tîm cartref, Rhydychen, chwarae rhan helaeth o’r ail hanner gyda deg dyn.

Rhoddodd Michael Collins y tîm cartref ar y blaen toc cyn yr egwyl a methodd Casnewydd a tharo nôl er gwaethaf cerdyn coch Tyrone Barnett yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Yn dilyn deugain munud agoriadol digon agos fe ildiodd Casnewydd gic rydd mewn safle peryglus a chael eu cosbi i’r eithaf gan Collins, 1-0 ar yr egwyl.

Roedd Barnett eisoes wedi derbyn cerdyn melyn yn eiliadau cyntaf yr ail hanner cyn derbyn ail ychydig funudau’n ddiweddarach am drosedd ar Ismail Yakubu.

Rhoddodd hynny hanner awr a mwy i Gasnewydd geisio gôl i’w gwneud hi’n gyfartal ond daliodd Rhydychen eu gafael i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn ddeunawfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Rhydychen

Tîm: Clarke, Riley, Mullins, Raynes, Newey, Collins, Rose (Ruffels 73′), Hylton, Howard (Morris 58′), O’Dowda (Brown 86′), Barnett

Gôl: Collins 40’

Cardiau Melyn: Barnett 46’, 55’, Morris 60’, Riley 63’

Cerdyn Coch: Barnett 55’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Tancock, Jones, Yakubu, Chapman (Loveridge 59′), Sandell, Willmott, Byrne, Klukowski (Crow 86′), Pigott, O’Connor (Zebroski 70′)

Cardiau Melyn: Pigott 26’, Byrne 31’, Sandell 61’, Jones 74’, Yakubu 89’

.

Torf: 5,072