Abertawe 2–2 Newcastle
Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi rhwng Abertawe a Newcastle brynhawn Sadwrn er i’r Elyrch fynd ar y blaen ddwywaith yn y gêm ar y Liberty.
Rhoddodd Wilfred Bony’r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf ac Wayne Routledge yn yr ail gyfnod, ond unionodd Papiss Cissé ar y ddau achlysur wrth i’r ymwelwyr rannu’r pwyntiau.
Abertawe a gafodd y dechrau gorau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan rwydodd Bony yn dilyn cyd chwarae da gyda Gylfi Sigurdsson ar ochr y cwrt cosbi.
Daeth Newcastle yn ôl iddi’n raddol wedi hynny ond wnaethon nhw ddim bygwth llawer nes i Cissé unioni’r sgôr ddau funud cyn yr egwyl yn dilyn gwaith da Gabriel Obertan ar yr asgell.
Patrwm tebyg oedd i’r ail hanner gyda’r Elyrch yn dechrau’n gryf ac roeddynt yn ôl ar y blaen wedi pum munud. Gyda rhai o chwaraewyr Newcastle yn aros am chwiban y dyfarnwr fe holltodd Sigurdsson eu hamddiffyn gyda phas dreiddgar ac fe orffennodd Routledge yn gelfydd dros Tim Krul yn y gôl.
Cafodd Nathan Dyer gyfle da i ychwanegu trydedd ond gwnaeth Krul yn dda i’w atal ac o fewn dau funud roedd Cissé wedi unioni yn y pen arall am yr eildro, yn dilyn gwaith creu da Sammy Ameobi y tro hwn.
Cafodd yr ymwelwyr gyfle i’w hennill hi hefyd ond roedd yr eilydd, Emmanuel Riviere, yn wastraffus.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe yn ôl i’r pedwar uchaf, am ychydig oriau o leiaf.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Richards, Fernández, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Shelvey, Dyer (Montero 86′), Sigurdsson (Emnes 86′), Routledge, Bony
Goliau: Bony 17’, Routledge 50’
Cerdyn Melyn: Shelvey 73’
.
Newcastle
Tîm: krul, Janmaat, Williamson, Coloccini, Dummett, Obertan, Tioté, Sissoko, Colback (Riviere 69′), Gouffran (Ameobi 58′), Cissé (Pérez Gutiérrez 85′)
Goliau: Cissé 43’, 75’
Cardiau Melyn: Coloccini 61’, Janmmat 88’, Sissoko 88’
.
Torf: 20,622