Stadiwm Liberty
Mae Abertawe’n gobeithio cipio’r pwyntiau i gyd prynhawn ma wrth i Newcastle ymweld â Stadiwm Liberty mewn hwyliau isel iawn.
Tra bod yr Elyrch yn hedfan yn uchel ac yn bumed yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, mae Newcastle ar waelod y tabl a heb ennill gêm eto’r tymor hwn.
Fe gollodd Newcastle 1-0 i Stoke nos Lun, canlyniad sydd wedi cynyddu’r pwysau ar eu rheolwr Alan Pardew.
Ar y llaw arall fe fydd Garry Monk yn gobeithio gweld ei dîm yn ennill yn y gynghrair unwaith eto, ar ôl canlyniad cyfartal ddi-sgôr yn erbyn Sunderland y penwythnos diwethaf.
“Dw i’n gwybod eu bod nhw [Newcastle] mewn lle anodd, ond dw i wedi bod yno fel chwaraewr fy hun a pan mae hynny’n digwydd mae’n eich trawsnewid chi,” meddai Monk.
“Fe ddown nhw yma a gweithio’n galed, jyst fel y gwnaethon nhw yn erbyn Stoke.”
Bydd Abertawe’n disgwyl rhagor gan chwaraewyr canol cae Saesnig Jonjo Shelvey, Nathan Dyer a Wayne Routledge ddydd Sadwrn, gyda Shelvey newydd gael ei enwi yng ngharfan nesaf Lloegr.
Dim ond Leon Britton, Angel Rangel a Jordi Amat sydd allan ag anafiadau i Abertawe, gan olygu y bydd Federico Fernandez yn debygol o barhau â’i bartneriaeth yn y cefn gydag Ashley Williams, gyda Jazz Richards o bosib fel cefnwr dde.
Bydd yn rhaid i Monk hefyd ddewis rhwng Wilfried Bony a Bafetimbi Gomis yn yr ymosod, gyda Gomis yn cael ei ddewis y tro diwethaf er gwaethaf y ffaith fod Bony nôl ar ôl gwaharddiad.
Fe allai’r Cymro Paul Dummett ddechrau i Newcastle fel cefnwr chwith unwaith eto.