Blackpool 1–0 Caerdydd
Sgoriodd Francois Zoko unig gôl y gêm wrth i Blackpool guro Caerdydd ar Bloomfield Road nos Wener.
Roedd gan y Cymry gyfle i godi i hanner uchaf y Bencampwriaeth ond er gwaethaf rheoli rhannau helaeth o’r gêm y tîm cartref aeth â hi gyda gôl Zoko toc wedi’r awr.
Roedd rhai o gefnogwyr Blackpool wedi gadael y cae mewn protest ar ddechrau’r ail hanner pan sgoriodd Zoko unig gôl y gêm gydag ymdrech unigol dda.
Fabio de Silva ac Adam Le Fondre a gafodd gyfleoedd gorau Caerdydd wedi hynny ond daliodd y tîm cartref eu gafael i sicrhau buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr hanner gwaelod, maent yn bedwerydd ar ddeg wedi un gêm ar ddeg.
.
Blackpool
Tîm: Parish, McMahon, Rentmeister, Daniels, Oriol (Dielna 14′), Delfouneso, Lundstram, Perkins Oriol (Mellis 92′), Zoko (Ranger 83′), Miller
Gôl: Zoko 64’
Cerdyn Melyn: McMahon 84’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Brayford, Morrison, Ecuele Manga, Fabio, Pilkington, Gunnarsson, Whittingham, Ralls (Noone 69′), Morrison (Le Fondre 69′), Jones (Macheda 61′)
Cardiau Melyn: Fabo 74’, Wittingham 89’
.
Torf: 10,502