Jonjo Shelvey yng ngrys dan 21 Lloegr (Dudek 1337 CCA 2.0)
Roedd chwaraewr Abertawe, Jonjo Shelvey, wedi gwrthod chwarae i dîm dan 21 Lloegr, yn ôl rheolwr y prif dîm, Roy Hodgson.
Ond mae wedi dweud bod gan y chwaraewr canol cae gyfle i ennill lle parhaol gyda Lloegr ar ôl i Steve Gerrard a Frank Lampard ymddeol o’r gêm ryngwladol.
Mae bellach wedi cael ei enwi yn y brif garfan ar gyfer dwy gêm nesa’ Lloegr ym mhencampwriaeth Ewrop.
Y tro cynta ers mwy na blwyddyn
Ond mae sylwadau Hodgson yn egluro pam nad yw Shelvey wedi chwarae i’r un o’r tîmau rhyngwladol ers mwy na blwyddyn.
Roedd Shelvey, meddai, wedi chwarae unwaith i’r prif dîm ac wedyn wedi dweud nad oedd yn teimlo y dylai fynd yn ôl i lawr i’r tîm dan 21.
Yn ôl Hodgson, roedd Shelvey wedi cael sgwrs gyda rheolwr y tîm iau, Gareth Southgate, i drafod ei ddyfodol gyda’r tîm.