Mae rheolwr yr Elyrch, Garry Monk wedi cyhuddo’r cyfryngau o drin rheolwr Newcastle, Alan Pardew yn annheg yn ystod gêm a gafodd ei darlledu nos Lun.

Dywed Monk fod y camerâu wedi canolbwyntio’n ormodol ar y rheolwr y bydd Monk yn ei herio pan fydd y ddau dîm yn cwrdd yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Yn ôl Monk, mae gan y cyfryngau agenda yn erbyn Pardew, sydd wedi dod o dan y lach y tymor hwn yn dilyn dechreuad siomedig yn yr Uwch Gynghrair.

Collodd Newcastle o 1-0 yn erbyn Stoke nos Lun.

Dywedodd Monk: “Dw i ddim yn hoffi gweld yr agenda fel oedd yn y gêm gafodd ei darlledu’r noson o’r blaen.

“Bob tro roedd yna gamgymeriad gwael neu ryw fath o ymosodiad yn erbyn Newcastle, gwnaethon nhw ddangos y rheolwr a’r cadeirydd.

“Roedd yn dipyn o ffars yn fy marn i, ac ro’n i’n meddwl bod agenda ynghlwm wrtho fe.

“Ond mae Alan yn rheolwr profiadol, mae e mewn sefyllfa anodd ac mae e wedi bod drwyddi ond mae e’n rheolwr da iawn.”

Tra bod Newcastle yn safle rhif 19 yn y tabl, mae Abertawe’n bumed yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Sunderland y penwythnos diwethaf.