Lee Evans
Mae Cymru’n dal i ddisgwyl gweld pa mor ddifrifol yw anaf Lee Evans wedi iddo ddod oddi ar y cae gydag anaf yng ngêm Wolves neithiwr.

Fe enwyd Evans yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ddoe wrth i Chris Coleman baratoi ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus mewn ychydig dros wythnos.

Ond yna cafodd Evans ei eilyddio funudau cyn yr egwyl neithiwr wrth i Wolves golli 3-1 gartref i Huddersfield neithiwr ar ôl brifo llinyn y gâr.

“Dydan ni ddim yn gwybod mwy hyd yn hyn, fe fydd ein tîm meddygol ni’n siarad efo nhw unwaith byddan nhw’n gwybod beth ydi’r anaf,” meddai hyfforddwr Cymru Osian Roberts wrth golwg360.

Mae’r garfan eisoes heb y chwaraewyr canol cae Aaron Ramsey, Joe Allen, David Vaughan ac Andrew Crofts oherwydd anafiadau, gydag amheuon hefyd ynglŷn â ffitrwydd Emyr Huws a Jonathan Williams.

Joe Ledley, Andy King a Dave Edwards yw’r chwaraewyr canol cae eraill sydd yn y garfan, wrth i Gymru obeithio adeiladu ar y fuddugoliaeth agoriadol yn yr ymgyrch yn erbyn Andorra.

Mae Cymru’n chwarae Bosnia ar 10 Hydref cyn herio Cyprus ar 13 Hydref, gyda’r ddwy gêm gartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd a’r gic gyntaf am 7.45yh.

Cefnogwyr ddim yn poeni Coleman

Cafodd Coleman a’r tîm eu beirniadu ar ôl y gêm yn erbyn Andorra, gyda’r cefnogwyr yn anhapus â’r perfformiad er gwaethaf y ffaith eu bod wedi ennill 2-1.

Ond wrth baratoi at y ddwy gêm nesaf fe ddywedodd y rheolwr nad yw’n poeni am farn y rheiny sy’n ei feirniadu.

“Roedd e’n dri phwynt enfawr i ni, felly dw i wrth fy modd gyda hynny,” meddai Coleman o’r gêm.

“Ry’n ni’n 29ain yn y byd ar hyn o bryd – lle ydyn ni fod? Nes i ddim cymryd drosodd tîm oedd yn cyrraedd twrnamentau mawr yn gyson, dw i ddim yn siŵr beth yw’r disgwyliadau i fod yn onest.

“Os ni’n ennill dyw e’n ddim i wneud ‘da fi, os ni’n colli mae e i gyd i wneud ‘da fi.

“Bydd rhai’n canolbwyntio ar y pethau negyddol fel maen nhw wedi’i wneud ers dwy flynedd, a dyw nhw ddim eisiau mynd nôl ar hynny – dw i ddim yn poeni amdanyn nhw i fod yn onest.

“Dw i ddim am drio’u perswadio, i fod yn onest, does gen i ddim ots taten amdanyn nhw – mae gennym ni chwaraewyr ymroddedig, cefnogwyr ymroddedig sy’n ein dilyn ni gartref ac i ffwrdd, nhw yw’r unig rai sy’n cyfri.”