Jayne Ludlow
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai Jayne Ludlow fydd rheolwr newydd parhaol y tîm merched cenedlaethol.

Fe fydd Ludlow’n cymryd yr awenau oddi wrth y gŵr o’r Ffindir Jarmo Matikainen, a adawodd ei swydd fis diwethaf ar ôl diwedd yr ymgyrch ragbrofol ddiwethaf.

Gorffennodd Cymru’n drydydd yn eu grŵp rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada, gyda cholled i’r Wcráin yn eu gêm olaf yn golygu’u bod nhw’n methu allan ar y gemau ail gyfle.

Dywedodd Matikainen y byddai’n camu o’r neilltu ar ddiwedd yr ymgyrch, a Ludlow sydd nawr wedi cael y dasg o barhau â’r cynnydd mae’r tîm wedi’i ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Matikainen oedd y person cyntaf i gael ei benodi’n rheolwr llawn amser ar dîm cenedlaethol merched Cymru, felly Ludlow fydd y ddynes gyntaf i ddal y swydd yn barhaol.

Fe enillodd Ludlow ei chap cyntaf dros Gymru yn 1996 pan oedd hi ddim ond yn 17 oed, gan fynd ymlaen i chwarae 61 o weithiau dros ei gwlad a sgorio 19 gôl.

Ar ôl chwarae i Ferched Tref Barri, Millwall Lionesses a Southampton Saints fe dreuliodd yr ymosodwr 13 mlynedd yn Arsenal, a hi yw’r prif sgoriwr yn hanes y tîm o hyd.

Yn ddiweddar bu Ludlow’n reolwr a chyfarwyddwr ar dîm merched Reading yn ogystal â chynorthwyo a hyfforddi tîm dan-16 Cymru.