Mae chwaraewr canol-cae Abertawe, Jonjo Shelvey wedi’i gynnwys yng ngharfan Lloegr ar gyfer eu gemau rhagbrofol Ewro 2016 yn erbyn San Marino ac Estonia.

Roedd cryn ddisgwyl yng Nghymru y deuai’r alwad i Shelvey, sydd wedi creu argraff yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Fis diwethaf, ildiodd rheolwr Lloegr, Roy Hodgson i’r pwysau i ddod i Abertawe i weld rhai o’r prif chwaraewyr.

Dydy Shelvey ddim wedi chwarae i Loegr ers ei unig gap yn 2012 yn erbyn San Marino.

Mae lle yn y garfan hefyd i chwaraewr Southampton, Nathan Clyne sydd wedi sgorio dwy gôl yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ond does dim lle i ymosodwr Lerpwl, Daniel Sturridge ar gais y rheolwr Brendan Rodgers.

Bu Sturridge yn dioddef o anaf ers mis, ond mae disgwyl iddo chwarae i Lerpwl yn erbyn West Brom ddydd Sadwrn.