Daeth cadarnhad yr wythnos hon mai cyn-gapten a hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard yw Cyfarwyddwr Criced newydd Gwlad yr Haf. Yma, mae’n rhannu ei weledigaeth ar gyfer tymor 2015.

Llongyfarchiadau Matthew. Sut mae’n teimlo i gael dychwelyd i Taunton, y cae lle codoch chi dlws Pencampwriaeth y Siroedd gyda Morgannwg yn 1997?

Dw i’n gyffrous iawn i gael y cyfle i hyfforddi yng Nghae’r Siroedd, lle mae gen i nifer o atgofion melys.

Beth oedd yn apelio atoch chi am y swydd yng Ngwlad yr Haf?

Mae’r Prif Weithredwr Guy Lavender a’r Cadeirydd Andy Nash yn bobol sydd wedi creu cryn argraff arna i ac fe ddes i i’w nabod nhw rywfaint pan wnaethon ni’r Daith Feiciau Fawr yn 2013 ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard a Chronfa Gymorth y PCA (Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol).

Cafodd Gwlad yr Haf dymor digon di-nod yn 2014. Beth sydd angen ei wella, yn eich barn chi?

Fe fydda i’n gwneud fy ngorau i greu awyrgylch fydd yn galluogi’r chwaraewyr i fod yn rhydd i fynegi’u hunain. Mae gan Wlad yr Haf garfan dda iawn o chwaraewyr a dw i’n credu bod angen ychydig o gyfeiriad ac anogaeth arnyn nhw.

Pa rai o’r chwaraewyr tîm cyntaf sy’n allweddol i lwyddiant Gwlad yr Haf y tymor nesaf, a pha rai o’r chwaraewyr ifainc y dylen ni gadw llygad arnyn nhw?

Y chwaraewyr allweddol i fi yw’r chwaraewyr mwyaf profiadol. Os galla i gael eu cefnogaeth nhw a’u cael nhw i berfformio i safon uchel, yna fe ddylen ni weld gwelliant ym mhob fformat. Y chwaraewyr ifainc i gadw llygad arnyn nhw yw’r efeilliaid Overton, Lewis Gregory, Tom Abell a Jack Leach.

Gwnaeth y clwb hysbysebu am hyfforddwr bowlio rhan-amser yr wythnos hon. Fyddwch chi’n penodi’ch staff eich hun i gefnogi’r hyfforddwyr presennol?

Bydda i’n cymryd fy amser i asesu’r staff sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac yn gwneud penderfyniad ar sail hynny.

Ar nodyn mwy personol, allwch chi ddweud mwy am yr hanner marathon yng Nghaerdydd y byddwch chi’n cymryd rhan ynddo dros y penwythnos.

Fe fydda i a naw o’m cyn gyd-chwaraewyr yn rhedeg hanner marathon Caerdydd ddydd Sul ar gyfer Ymddiriedolaeth Tom Maynard. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cyfraniadau ar gyfer yr Ymddiriedolaeth ac yn disgwyl codi dros £5,000. Mae’n mynd i fod yn waith caled, ond fe ddown ni i ben yn iawn!!

Diolch yn fawr iawn a phob lwc am y tymor i ddod.