Jonathan Williams
Mae Jonathan Williams wedi dychwelyd i Ipswich ar fenthyg am dri mis ar ôl ei chael hi’n anodd cael lle yn nhîm Crystal Palace unwaith eto.

Mae’n ymuno â Chymro arall, Jack Collison, sydd newydd arwyddo cytundeb byr gydag Ipswich nes diwedd y flwyddyn.

Fe dreuliodd Williams gyfnod llwyddiannus iawn ar fenthyg gyda’r Tractor Boys y tymor diwethaf hefyd, wrth iddyn nhw ddod yn agos at gipio lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Tra’r roedd yno’n gynharach eleni fe sgoriodd un o goliau’r tymor i Ipswich mewn gêm yn erbyn Derby:

Cafodd Neil Warnock ei benodi’n rheolwr newydd ar Palace yn ddiweddar, ac mae wedi penderfynu y byddai’n gwneud lles i Williams chwarae’n gyson ar fenthyg yn hytrach na eistedd ar y fainc yn yr Uwch Gynghrair.

Dyw Williams dal heb ddechrau gêm i Palace yn yr Uwch Gynghrair eto ers iddyn nhw gael eu dyrchafu yn 2013.

Bydd Joniesta, fel mae’n cael ei alw gan gefnogwyr, yn ymarfer ag Ipswich heddiw ac fe allai fod yn y tîm ar gyfer eu gêm yn erbyn Sheffield Wednesday fory.