Dreigau Casnewydd Gwent 33–15 Treviso
Daeth buddugoliaeth gyntaf y Dreigiau o’r tymor yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul wrth iddynt groesawu Treviso i Rodney Parade.
Sgoriodd Hallam Amos ddau gais yn yr hanner cyntaf cyn i ddau gais cynnar yn yr ail hanner sicrhau’r pwynt bonws, ond braidd yn siomedig oedd y Dreigiau wedi hynny wrth iddynt adael yr Eidalwyr yn ôl i’r gêm.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Dreigiau ar dân ac roedd Jason Tovey eisoes wedi cicio tri phwynt pan groesodd Amos am gais cyntaf y gêm wedi deuddeg munud.
Rhyng-gipiodd yr asgellwr ifanc y bêl ar y llinell hanner cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio, 10-0 wedi trosiad Tovey.
Tovey ac Amos gyfunodd ar gyfer pwyntiau nesaf y tîm cartref hefyd, y maswr yn bylchu i greu cais i’r asgellwr yn y gornel cyn ei drosi i roi’r Dreigiau 17-0 ar y blaen wedi deunaw munud.
Roedd Treviso yn well wedi hynny a chwaraewyd llawer o’r ail chwarter yn hanner y Dreigiau. Roedd yr Eidalwyr yn hynod anffodus i beidio â chael cais wedi hanner awr.
Sgoriodd Luca Morisi gais perffaith ddilys ond penderfynodd y dyfarnwr, Andrew McMenemy, heb gymorth y dyfarnwr fideo nad oedd y canolwr wedi cyrraedd! Rhaid fu i’r ymwelwyr yn hytrach fodloni ar dri phwynt yn unig wrth i Joe Carlisle gicio eu pwyntiau cyntaf, 17-3 ar hanner amser.
Ail Hanner
Roedd y pwynt bonws, a’r fuddugoliaeth fwy neu lai, yn ddiogel i’r Dreigiau wedi chwe munud o’r ail hanner diolch i gais yr un i Ashley Smith a Jonathan Evans.
Tiriodd Smith yn y gornel wedi i Tovey dorri’r llinell fantais yn wreiddiol ac ychwanegodd Evans y pedwerydd yn dilyn dau gyfraniad da Lee Byrne yn gynharach yn y symudiad.
Methodd Tovey y ddau drosiad ond roedd y Dreigiau 27-3 ar y blaen gyda dros hanner awr i fynd.
Cafodd Treviso eu cyfnod gorau wedi hynny. Croesodd yr wythwr, Mat Luamanu, am eu cais cyntaf gyda symudiad taclus o lein bump cyn i Andy Powell gael ei anfon i’r gell gosb am dacl beryglus.
Yna, gadawodd un wythwr enfawr o Seland Newydd y cae i wneud lle i un arall wrth i Leo Auva’a gymryd lle Luamanu, ac roedd yntau wedi tirio o fewn dim i ddod â’r Eidalwyr yn ôl o fewn dwy sgôr.
Ymestynnodd Tovey’r bwlch yn syth wedyn gyda chic gosb a chafodd y Dreigiau chwarter awr olaf ychydig mwy cyfforddus, er mai dim ond tri phwynt arall o droed Tovey a gawsant i ddangos am hynny.
Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12 ond mae her anoddach yn eu haros yr wythnos nesaf gyda thaith i Barc y Scarlets.
.
Dreigiau Casnewydd Gwent
Ceisiau: Hallam Amos 12’, 17’, Ashley Smith 42’, Jonathan Evans 46’
Trosiadau: Jason Tovey 13’, 18’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 3’, 62’, 80’
Cerdyn Melyn: Andy Powell 54’
.
Treviso
Ceisiau: Mat Luamanu 53’, Leo Auva’a 61’
Trosiad: Joe Carlisle 61’
Cic Gosb: Joe Carlisle 30’