Y Seintiau Newydd 1–1 Y Drenewydd
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi ar Neuadd y Parc brynhawn Sul wrth i’r Drenewydd ymweld â’r Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru.
Rhoddodd peniad cynnar Shane Sutton yr ymwelwyr ar y blaen cyn i Aeron Edwards unioni i’r tîm cartref cyn yr egwyl, ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Drenewydd ar dân a dylai Jason Oswell fod wedi eu penio ar blaen o gic rydd Craig Williams wedi tri munud yn unig.
Dyna’n union a wnaeth Shane Sutton wedi deuddeg munud, yr amddiffynnwr canol yn plannu cic gornel Williams yn gadarn i gefn y rhwyd.
Cafodd Oswell gyfle da i ddyblu’r fantais wedi hynny ond anelodd yn syth at Paul Harrison yn y gôl.
Roedd y Seintiau yn raddol yn mwynhau mwy a mwy o’r meddiant a doedd fawr o syndod pan unionodd Edwards bethau wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Collodd y Drenewydd y bêl yn eu hanner eu hunain a phan gyrrhaeddodd hi draed Simon Spender ar ochr dde’r cwrt cosbi fe groesodd yntau i Edwards sgorio.
Greg Draper a Ryan Fraughan ddaeth agosaf at ychwanegu ail i’r Seintiau cyn yr egwyl ond peniodd Draper dros y trawst a tharodd ergyd wych Fraughan yn ei erbyn.
Ail Hanner
Er i’r Seintiau reoli’r gêm yn yr ail hanner hefyd ychydig iawn o gyfleoedd clir a grëwyd a llwyddodd y Drenewydd i amddiffyn yn gymharol gyfforddus.
Bu rhaid i Dave Jones yn y gôl fod yn effro i arbed cynnigion Draper a Kai Edwards yn y deg munud olaf, ond daeth cyfle gorau un y Seintiau yn yr eiliadau olaf pan beniodd yr eilydd, Mike Wilde, yn syth at Jones yn gôl.
Pwynt yr un i’r ddau dîm felly, pwynt sydd yn cadw’r Seintiau ar frig y tabl ac yn codi’r Drenewydd i’r pumed safle ar wahaniaeth goliau.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Rawlinson, K. Edwards, Marriott (Pryce 78’), A. Edwards, Williams, Cieslewicz, Darlington (Ruscoe 66’), Fraughan (Wilde 77’), Draper
Gôl: A. Edwards 27’
Cerdyn Melyn: Cieslewicz 35’
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Sutton, Wells (Penk 46’), Edwards, Goodwin, Boundford, Mitchell, Owen, Hearsey, Oswell
Gôl: Sutton 12’
Cardiau Melyn: Sutton 71’, Penk 83’
.
Torf: 522