Mae Ki Sung-Yueng yn disgwyl gêm galed pan fydd Abertawe yn herio Sunderland yfory.

Bu Sung-Yeung ar fenthyg yno’r tymor diwethaf gan sgorio pedair gôl mewn 34 o gemau.

Hefyd bu’n amlwg yn eu gemau yng Nghwpan Capital One wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol cyn colli yn erbyn Manchester City.

Mae Sung-Yeung wedi dechrau ymhob un o’r pum gêm yn y gynghrair i dîm Garry Monk y tymor hwn.

Er nad yw Sunderland wedi ennill gêm yn y gynghrair y tymor hwn mae Sung-Yeung yn disgwyl gêm anodd.

‘‘Mae’r gêm hon yn allweddol i ni, mae’n rhaid cael pwyntiau ar ôl colli’r ddwy gêm olaf, er mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Everton wedi rhoi hyder i ni,’’ meddai Ki a ddechreuodd yn nhair gêm De Korea yng Nghwpan y Byd.

‘‘Bydd angen paratoi yn dda a bod yn barod am y frwydr o ennill pwyntiau.  Fe fu fy nghyfnod yn Sunderland yn fuddiol iawn.  Mi wnaethon nhw fy helpu i, ac fe wnes fy ngorau iddyn nhw.  Fe gefais amser arbennig o dda yno ond gobeithio mae ni gaiff y pwyntiau ddydd Sadwrn.’’