Caerdydd 0–3 Bournemouth
Daeth llai na chwe mil a hanner o gefnogwyr i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth i weld yr Adar Gleision yn colli yn erbyn Bournemouth yn nhrydedd rownd Cwpan y Gynghrair.
Sgoriodd Dan Gosling ddwy gôl o boptu un i Charlie Daniels wrth i’r ymwelwyr sicrhau’r fuddugoliaeth yn yr hanner cyntaf.
Naw munud oedd ar y cloc pan agorodd Gosling y sgorio gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi yn dilyn rhediad da trwy galon yr amddiffyn
Gorffennodd Daniels symudiad da mewn steil i’w gwneud hi’n ddwy, ac roedd hi’n dair wedi ychydig mwy na hanner awr ar ôl i Gosling fanteisio ar gamgymeriad Simon Moore yn y gôl i roi’r gêm o afael y tîm cartref.
Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl ond Bournemouth a ddaeth agosaf at sgorio mewn gwirionedd wrth i gynnig Harry Arter daro’r trawst.
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Gabbidon, Brayford, John, Torres Ruiz, Le Fondre, Kim Bo-kyung (Daehli 37′), Adeyemi, Gunnarsson, Javi Guerra (Macheda 37′), Maynard (Pilkington 81′)
.
Bournemouth
Tîm: Boruc, Smith (Francis 86′), Cargill, Elphick, O’Kane, Gosling, MacDonald (Arter 75′), Pugh, Daniels, Pitman, Stanislas (Rantie 87′)
Goliau: Gosling 9’, 33’, Daniels 22’
.
Torf: 6,491