Stadiwm Liberty
Fe fydd Abertawe’n croesawu Everton i’r Liberty yng Nghwpan Capital One heno gan obeithio parhau â’u dechrau da i’r tymor hyd yn hyn.

Mae’r Elyrch yn hedfan yn uchel yn yr Uwch Gynghrair ac yn bumed yn y tabl ar hyn o bryd er eu bod nhw wedi colli’u dwy gêm ddiwethaf.

Ar y llaw arall mae’r ymwelwyr Everton wedi cael dechrau siomedig i’r tymor, ac yn 14eg ac wedi ildio mwy o goliau na’r un tîm arall yn y gynghrair hyd yn hyn.

Fe fydd Abertawe, a enillodd y gwpan hon ddau dymor yn ôl, hefyd yn hyderus gan fod Everton wedi colli yn y drydedd rownd dair gwaith yn y pedair blynedd diwethaf.

Dyw Everton, fodd bynnag, erioed wedi colli i Abertawe ac mae hanes y gemau diweddar yn sicr o blaid y tîm o Lannau Merswy felly.

Ni fydd yr ymosodwr Wilfried Bony ar gael i Abertawe oherwydd iddo gael cerdyn coch yn erbyn Southampton dros y penwythnos, gan olygu mai Bafetimbi Gomis sydd yn debygol o arwain yr ymosod.

Fe allai Garry Monk hefyd roi cyfle i rai o’r chwaraewyr eraill yn y garfan sydd heb chwarae mor gyson eleni, gan gynnwys yr asgellwr Jefferson Montero a’r amddiffynnwr Federico Fernandez.

Bydd Everton yn croesawu Bryan Oviedo nôl i’r tîm ar ôl iddo dorri’i goes yn gynharach eleni, tra bod disgwyl i Arouna Kone fod yn ffit hefyd ar ôl anaf hir dymor.