Stadiwm Dinas Caerdydd
Fe fydd Caerdydd yn croesawu Bournemouth i Stadiwm Dinas Caerdydd heno wrth i’r ddau dîm gystadlu am le yn nhrydedd rownd Cwpan Capital One.
Danny Gabbidon a Scott Young fydd wrth yr awenau i’r tîm cartref unwaith eto wrth iddyn nhw barhau fel rheolwyr dros dro yn dilyn ymadawiad Ole Gunnar Solskjaer.
Ac fe fydd y pâr yn gobeithio am well canlyniad nag ar y penwythnos, pan ildiodd y tîm fantais o ddwy gôl i orffen gyda chanlyniad cyfartal o 2-2 i ffwrdd yn Derby.
Mae’r ddau dîm yn hafal ar bwyntiau yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd ar naw, ar ôl chwarae wyth gêm, gyda Bournemouth yn 15fed a Chaerdydd yn 16ed.
Dyw’r ddau glwb heb chwarae’i gilydd ers gêm arall yng Nghwpan y Gynghrair chwe blynedd yn ôl, pan enillodd Caerdydd 2-1 diolch i ddwy gôl gan Paul Parry.
Mae’n debygol y bydd Caerdydd yn newid eu carfan o gwmpas unwaith eto wrth iddyn nhw orffwys rhai o’u prif chwaraewyr, gan roi cyfle i chwaraewyr fel y Cymro Declan John sydd wedi bod ar gyrion y tîm cyntaf hyd yn hyn y tymor hwn.