Ravel Morrison (llun: PA)
Mae chwaraewr canol cae West Ham Ravel Morrison wedi trydar ei fod wedi symud i Gaerdydd am dri mis ar fenthyg.

Roedd disgwyl i’r trosglwyddiad gael ei gadarnhau heddiw ar ôl sôn ers dyddiau fod Caerdydd ar ei ôl, ond Morrison ei hun oedd y cyntaf i dorri’r newyddion cyn y daeth unrhyw gyhoeddiad swyddogol gan yr un o’r clybiau.

Cafodd Morrison ei ryddhau gan Manchester United cyn ymuno â West Ham, ac fe fydd yn ymuno â’i gyn gyd-chwaraewyr Mats Daehli, Magnus Wolff Eikrem, Federico Macheda a Rafael da Silva yng Nghaerdydd.

Dyw e ddim wedi bod yn chwarae’n rheolaidd i West Ham eleni, ac mewn neges arall ar trydar a gafodd ei ddileu funudau’n ddiweddarach, fe awgrymodd nad oedd yn dod ymlaen yn dda â phobl o fewn y clwb.

Mae Morrison yn wynebu achos llys ym mis Ionawr ar gyhuddiad o fygwth taflu asid i wyneb ei gyn-gariad a’i lladd.

Yr awgrym oedd mai problemau gyda’i ddisgyblaeth a’i agwedd a arweiniodd at Man United yn ei ryddhau yn y lle cyntaf.

Fe fydd Morrison yn ymuno â chlwb sydd dal heb reolwr parhaol, wrth iddyn nhw edrych am olynydd i Ole Gunnar Solskjaer.

Fe fydd Danny Gabbidon a Scott Young yn cymryd yr awenau unwaith eto heno wrth i Gaerdydd herio Bournemouth yng Nghwpan Capital One heno.

Rheolwr Leyton Orient Russell Slade yw’r ffefryn a dewis cyntaf y clwb ar hyn o bryd, ond hyd yn hyn dyw Orient ddim wedi cytuno i adael iddo ymuno â Chaerdydd.