Abertawe 3–0 Everton
Mae Abertawe ym mhedwaredd rownd Cwpan y Gynghrair ar ôl trechu Everton ar y Liberty nos Fawrth.
Roedd yr Elyrch un i ddim ar y blaen ar hanner amser diolch i Nathan Dyer ac fe sicrhaodd Gylfi Sigurdsson a Marvin Emnes y fuddugoliaeth yn yr ail hanner.
Roedd Jefferson Montero’n feistr corn ar gefnwr dde Everton, Tony Hibbert, yn yr hanner cyntaf a deilliodd gôl agoriadol Dyer o waith da ar yr asgell gan y gŵr o Dde America.
Camgymeriad yn y cefn gan Sylvain Distin arweiniodd at yr ail i Sigurdsson toc wedi’r awr, bu bron i’r amddiffynnwr canol wyro’r bêl i’w rwyd ei hun ond roedd Sigurdsson wrth law i glirio’r briwsion.
Cwblhaodd Emnes y sgorio dri munud o ddiwedd y naw deg gyda gôl unigol dda.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf Abertawe erioed yn erbyn Everton ac mae’r Cymry’n ddiogel yn yr het ar gyfer y rownd nesaf.
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Richards, Williams, Taylor, Fernández, Carroll (Ki Sung-yueng 70′), Montero, Shelvey, Dyer (Routledge 68′), Sigurdsson (Emnes 85′), Gomis
Goliau: Dyer 28’, Sigurdsson 64’, Emnes 87’
Cardiau Melyn: Fernández 18’, Shelvey 60’
.
Everton
Tîm: Howard, Distin, Hibbert, Alcaraz, Oviedo (McCarthy 58′), Atsu, McGeady (Osman 81′), Gibson, Garbutt, Besic, Eto’o (Lukaku 45′)
Cerdyn Melyn: Garbutt 90’
.
Torf: 20,397