Mae disgwyl  i Reolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjær golli ei swydd heddiw ar ôl i’w chwaraewyr golli’r tair gêm ddiwethaf.

Mae Solskjær, 41 oed, wrthi’n trafod ei ddyfodol ac, i bob tebyg, y telerau ymadael  y bore yma gyda Chadeirydd y clwb, Mehmet Dalman, ac mae disgwyl datganiad yn fuan.

Y gred yw ei fod ef ei hun yn anhapus a fod y perchennog, Vincent Tan, wedi colli ffydd ynddo.

Pulis neu Hartley

Mae’r rhan fwya’ o bapurau newydd yn awgrymu bod y ras i’w ddilyn rhwng y Cymro profiadol, Tony Pulis, a Paul Hartley, rheolwr Dundee yn yr Alban.

Roedd Pulis wedi gadael Crystal Palace ddechrau’r tymor wedi dadl gyda’r perchnogion.

Mae  Caerdydd yn 17fed yng nghyngrair y Bencampwriaeth ar ôl colli tair o’u saith gêm hyd yn hyn yn y tymor.

Colli gartref o un i ddim yn erbyn Middlesborough ddydd Mawrth oedd yr ergyd farwol – roedden nhw hefyd wedi colli o 4-2 i Norwich ar ôl bod ar y blaen o 2-0.

Dilynwyr yn erbyn Ole

Mae dilynwyr clwb Caerdydd eisoes wedi bod yn galw ar Solskjær i fynd wedi iddo reoli Caerdydd am ddim ond naw mis a cholli dros hanner y 30 o gêmau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd wedi methu eu cadw yn yr Uwch Gynghrair ac, ar ben hynny, dyw’r arian mawr y mae wedi ei wario i gryfhau’r tîm ddim wedi cael effaith.

Cymerodd le Malky Mackay mewn amgylchaidau dadleuol ym mis Ionawr eleni – roedd cefnogwyr wedi protestio o blaid Mackay.