Chris Coleman
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd ucha’ rhestr goreuon FIFA yn y tablau diweddara’.

Mae hynny’n golygu bod y wlad wedi codi 12 saflei 29ain  yn dilyn cyfres o ganlyniadau da yn ddiweddar dan arweiniad Chris Coleman.

Cymru sydd wedi codi fwya’ o blith y 30 ucha’ ac mae bellach o fewn naw safle i Loegr sydd wedi codi ddau le i fod yn 18fed.

Er hynny, mae’r safleoedd newydd yn golygu bod dau o’r tîmau sydd yn yr un grŵp â Chymru ym Mhencampwriaeth Ewrop yn uwch na hi – Gwlad Belg sy’n 5ed a Bosnia sy’n 25ain.

Canlyniadau

Mae Cymru wedi ennill un a chael tair gêm gyfartal yn eu pump gêm ddiwetha’, gan gynnwys gêm gyfartal gyfeillgar gyda Gwlad Belg.

Yr Almaen sydd ar y brig, gyda’r Ariannin yn ail – nhw oedd yn rownd derfyol Cwpan y Byd – gyda Colombia’n dilyn a’r Iseldiroedd yn bedwerydd.

Chweched yw Brasil.

Edrych tua Ffrainc 2016

Mae hyfforddwr Cymru, Osian Roberts wedi dweud wrth golwg360 mai cyfuniad o ffactorau sy’n gyfrifol am y cynnydd diweddar.

Dywedodd: “Mae’n neisiach gweld ni i fyny fan’na nag yn is i lawr y rhestr.

“Dydi’r rhestr ddim bob amser yn gywir ond mae’n arwydd o lle ydan ni ar y funud.

“Mae ein canlyniadau diweddar ni wedi bod o help.

“Y peth sy’n plesio ydi ein bod ni’n rhif 19 yn Ewrop, sy’n dipyn o dasg ynddi’i hun ac os ydan ni am fynd i [Bencampwriaethau Ewro 2016] Ffrainc, rhaid i ni fod yn y 24 ucha yn Ewrop.”

Dywedodd fod colli’r ymosodwr profiadol Craig Bellamy wedi bod yn ergyd yn ystod yr ymgyrch ddiweddaraf.

“Mi ydan ni wedi cael profiadau anodd mewn rhai gemau, yn enwedig yn erbyn Serbia a Chroatia, ond mi fydd y profiadau yna’n cryfhau’r chwaraewyr ac yn eu haeddfedu nhw.”