Wrecsam 2–1 Welling


Rhwydodd Wrecsam ddwywaith yn y deg munud olaf wrth drechu Welling ar y Cae Ras yn eu gêm yn y Gyngres brynhawn Sadwrn.

Roedd y Dreigiau ar ei hôl hi o gôl i ddim am ran helaeth o’r gêm ond fe gipiodd y Cymry’r pwyntiau yn y diwedd diolch i goliau hwyr Louis Moult a Joe Clarke.

Aeth Welling ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr o chwarae pan fanteisiodd Tobi Sho-Silva ar gamgymeriad Neil Ashton i greu gôl i Harry Beautyman.

Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond newidiodd y gêm ar yr awr pan welodd John Nouble ail gerdyn melyn a cherdyn coch i Welling.

Chwe munud o’r naw deg oedd ar ôl pan groesodd Wes York i Moult unioni’r sgôr, ac roedd y tri phwynt yn ddiogel ddau funud yn ddiweddarach pan wyrodd ergyd Clarke i gefn y rhwyd.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r seithfed safle yn nhabl y Gyngres.

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, Hudson (Bailey-Jones 71′), White, Ashton, Smith, Hunt (Durrell 38′), Clarke, Harris, York, Jennings (Bishop 77′), Moult

Goliau: Moult 84’, Clarke 86’

.

Welling

Tîm: Henly, Fagan (Bassele 78′), Williams, Jefford, Fyfield, Bush, Beautyman (Hudson 80′), Gallagher, Nouble, Sho-Silva, Marsh (Healy 62′)

Gôl: Beautyman 33’

Cardiau Melyn: Nouble 10’, 60’,  Williams 42’, Sho-Silva 57’, Gallagher 70’, Henly 85’

Cerdyn Coch: Nouble 60’

.

Torf: 2,857