Casnewydd 3–2 Northampton
Cael a chael oedd hi i Gasnewydd yn erbyn Northampton brynhawn Sadwrn er gwaethaf dechrau da i’r tîm cartref ar Rodney Parade.
Roedd y Cymry dair gôl ar y blaen wedi awr o’r gêm Ail Adran diolch i Chris Zebroski, Darren Jones a Lee Minshull. Cafwyd diweddglo diddorol serch hynny wedi i Northampton dynnu dwy yn ôl, ond daliodd Casnewydd eu gafael yn y diwedd.
Mae sgorio goliau wedi bod yn broblem i Gasnewydd y tymor hwn ond doedd dim arwydd o hynny wrth i Zebroski agor y sgorio wei deunaw munud cyn i gynnig Jones o bellter ddyblu’r fantais.
Roedd hi’n dair diolch i Minshull yn gynnar yn yr ail gyfnod ond fe ymlaciodd y tîm cartref braidd wedi hynny.
Achosodd Lawson D’Ath a Marc Richards ddiweddglo agos a chafodd Daniel Alfei gyfle da i unioni yn y munudau olaf un ond gwnaeth y Cymro ffarf â Chasnewydd trwy fethu ei gic.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’r ail safle ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jones, Hughes, Feely, Byrne, Minshull, Willmott, Jackson (Sandell 68′), Chapman (Klukowski 77′), Zebroski, O’Connor (Pigott 64′)
Goliau: Zebroski 18’, Jones 33’, Minshull 53’
Cardiau Melyn: Feely 40’, Pigott 90’
.
Northampton
Tîm: Archer Cresswell, Tozer (Alfei 45′), Diamond, Robertson (O’Toole 45′), Byrom, Carter, Hackett, Watson (D’Ath 70′), Toney, Richards
Goliau: D’Ath 76’, Richards 85’
Cerdyn Melyn: Watson 53’
.
Torf: 2,875