Caerdydd 2–4 Norwich

Fe gollodd Caerdydd eu gafael ar ddwy gôl o fantais yn eu gêm yn y Bencampwriaeth yn erbyn Norwich yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos yn brynhawn cyfforddus i’r Adar Gleision yn dilyn goliau hanner cyntaf Joe Ralls ac Aron Gunnarsson, ond taro’n ôl wnaeth Norwich gyda phedair gôl yn yr ail hanner.

Roedd popeth yn mynd yn iawn i Gaerdydd hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf wrth i Gunnarsson ddyblu’r fantais gyda gôl dîm dda yn dilyn gôl unigol wych Ralls, ac felly yr arhosodd pethau tan hanner amser hefyd.

Newidiodd pethau wedi deg munud o’r ail hanner pan rwydodd Martin Olsson yn dilyn gwaith creu Wes Hoolahan a Lewis Grabban.

Hoolahan ei hun unionodd bethau ychydig funudau’n ddiweddarach, yn rhwydo ar yr ail gynnig wedi i beniad gwreiddiol Cameron Jerome gael ei arbed.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ugain munud o’r diwedd pan rwydodd yr amddiffynnwr, Michael Turner,  yn dilyn sgiliau celfydd Alexander Tettey.

Yna, aeth pethau o ddrwg i waeth yn y munudau olaf pan rwydodd Jerome yn erbyn ei gyn glwb diolch i wrthymosodiad chwim.

Canlyniad siomedig iawn i Gaerdydd felly wrth i’w dechrau gwael i’r tymor barhau. Maent yn llithro i’r pymthegfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Brayford, Connolly, Morrison, Fabio (John 45′), Pilkington (Adeyemi 69′), Whittingham, Ralls, Gunnarsson, Jones (Maynard 69′), Macheda

Goliau: Ralls 4’, Gunnarsson 22’

Cerdyn Melyn: Ralls 72’

.

Norwich

Tîm: Ruddy, Turner, Olsson, Martin, Hooiveld, Johnson, Lafferty (Jerome 45′), Tettey, Hoolahan (O’Neil 83′), Redmond (Garrido 88′), Grabban

Goliau: Olsson 54’, Hoolahan 58’, Turner 74’, Jerome 87’

Cardiau Melyn: Lafferty 24’, Turner 81’

.

Torf: 21,746