Chelsea 4–2 Abertawe

Er i Abertawe fynd ar y blaen yn Stamford Bridge brynhawn Sadwrn fe darodd Chelsea yn ôl i ennill y gêm Uwch Gynghrair yn gyfforddus yn y diwedd.

Gôl i’w rwyd ei hun gan John Terry roddodd yr Elyrch ar y blaen cyn i hatric Diego Costa a gôl Loïc Remy droi’r gêm wyneb i waered. Rhwydodd Jonjo Shelvey gôl gysur i’r Cymry ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi erbyn hynny.

Deg munud oedd wedi mynd pan roddodd Terry’r bêl yn er rwyd ei hun yn dilyn rhediad pwrpasol Ki Sung-yueng.

Felly yr arhosodd y sgôr tan funud olaf yr hanner pan unionodd Costa gyda pheniad syml o gic gornel Cesc Fàbregas.

Cyfunodd Fàbregas a Costa eto i roi Chelsea ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod, Fabregas yn creu i’r blaenwr unwaith eto.

Cwblhaodd Costa ei hatric union hanner ffordd trwy’r ail hanner pan wyrodd gynnig Ramires i gefn y rhwyd, cyn gadael y cae i orffwyso.

Blaenwr newydd arall ddaeth i’r maes yn ei le a doedd hi’n fawr o dro cyn i’r eilydd, Remy, rwydo’r bedwaredd yn dilyn gwaith creu celfydd Eden Hazard ac Oscar.

Gôl gysur yn unig oedd un Shelvey bum munud o’r diwedd felly er cystal y cynnig hwnnw o ochr y cwrt cosbi.

Mae Abertawe yn parhau’n ail yn y tabl er gwaethaf y canlyniad ond mae’r bwlch rhyngddynt a Chelsea ar y brig bellach yn dri phwynt.

.

Chelsea

Tîm: Courtois, Cahill, Ivanovic, Azpilicueta, Terry, Hazard, Oscar, Matic, Schürrle (Ramires 45′), Fàbregas (Salah 82′), Diego Costa (Remy 72′)

Goliau: Costa 45’, 56’ 67’, Remy 81’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Amat (Fernández 45′), Taylor, Williams, Rangel, Dyer, Routledge (Montero 66′), Shelvey, Sigurdsson, Ki Sung-yueng, Gomis (Bony 76′)

Goliau: Terry (g.e.h.) 11’, Shelvey 86’

Cardiau Melyn: Amat 26’, Shelvey 32’, Taylor 51’

.

Torf: 41,400