Leinster 42–12 Scarlets

Cafodd y Scarlets gweir go iawn ar yr RDS brynhawn Sadwrn wrth ymweld â Leinster yn y Guinness Pro12.

Ian Madigan oedd y seren ar y cae sioe i’r tîm cartref. Sgoriodd y maswr 22 pwynt gan gynnwys dau gais. Rob Kearney (2), Dominic Ryan a Tadgh Furlong oedd sgoriwyr eraill y Gwyddelod gyda Scott Williams a Johan Snyman yn croesi am ddau gais y Scarlets.

Croesodd y cefnwr, Kearney, wedi dim ond wyth munud ond roedd y Scarlets yn ôl yn y gêm o fewn pum munud wrth i Williams gau’r bwlch i ddau bwynt.

Ond roedd bwlch cyfforddus rhwng y ddau dîm erbyn yr egwyl wedi i Kearney groesi am ei ail gais cyn i Madigan ychwanegu trydydd. 21-5 wedi deugain munud.

Roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel i’r Gwyddelod yn gynnar yn yr ail hanner wedi i Madigan groesi am ei ail yntau.

Ymunodd y blaenwyr, Ryan a Furlong yn yr hwyl wedi hynny gyda chais yr un, a chais cysur yn unig oedd ymdrech hwyr Snyman gyda Leinster lawr i bedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn melyn i Jamie Heaslip.

Gorffennodd Madigan y gêm gyda dau gais a chwe throsiad a byddai hynny’n unig wedi bod yn hen ddigon i drechu’r Scarlets yn y fuddugoliaeth gyfforddus hon.

.

Leinster

Ceisiau: Rob Kearney 8’, 27’, Ian Madigan 34’, 52’, Dominic Ryan 57’, Tadgh Furlong 69’

Trosiadau: Ian Madigan 9’, 28’, 35’, 54’, 59’, 69’

Cerdyn Melyn: Jamie Heaslip 79’

.

Scarlets

Ceisiau: Scott Williams 13’, Johan Snyman 80’

Trosiad: Steve Shingler 80’