Fe gipiodd Caerdydd bwynt o’u taith i Craven Cottage wrth i Fulham gasglu’u pwyntiau cyntaf o’r tymor yn y Bencampwriaeth.

Gyda’r tîm cartref wedi colli’u pedair gêm gyntaf yn y gynghrair roedd Caerdydd yn hyderus o allu manteisio o’u hymweliad â Gorllewin Llundain.

Ond Fulham ddechreuodd gryfaf, ac ar ôl 21 munud roedden nhw ar y blaen wrth i Tim Hoogland benio i’r rhwyd o gornel cyn-ymosodwr Caerdydd, Ross McCormack.

Fe ddylai’r tîm cartref fod wedi bod yn bellach ar y blaen erbyn yr egwyl, wrth i Scott Parker ac Emerson Hyndman fygwth gôl Caerdydd.

Ond fe dalon nhw’r pris am beidio ag ymestyn eu mantais, wrth i Kenwyne Jones rwydo i Gaerdydd ddeng munud ar ôl yr egwyl ar ôl pas gan Mats Daehli.

Er gwaethaf rhagor o gyfleoedd hwyr i Fulham fe ddaliodd Caerdydd ymlaen am y pwynt, sy’n eu gweld nhw’n cwympo i nawfed yn y gynghrair.