Dwy gôl i Dyer
Mae Abertawe wedi symud i frig yr Uwch Gynghrair ar ôl sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o’r tymor wrth drechu West Brom 3-0.

Doedd y triphwynt erioed yn edrych o dan fygythiad wrth i Abertawe roi gwers bêl-droed i West Brom, a dim ond dau funud oedd ar y cloc pan rwydodd Nathan Dyer y gôl gyntaf o ongl dynn.

Roedd yr Elyrch yn edrych yn hyderus drwy gydol, gan reoli’r meddiant a chreu’r cyfleoedd gorau, ac ar ôl 24 munud fe ddyblodd Wayne Routledge eu mantais.

Nid oedd gan West Brom ateb i hynny, ac roedden nhw’n gorfod setlo ag ergydio o bell er mwyn ceisio bygwth y tîm cartref.

Ond gydag ugain munud i fynd, fe gipiodd Dyer drydydd i’r Elyrch a sicrhau buddugoliaeth gyfforddus arall yn Stadiwm y Liberty.

Mae’n golygu bod Abertawe nawr ar frig y gynghrair gyda naw pwynt mewn tair gêm, o leiaf nes y bydd Chelsea’n chwarae nes ymlaen heno.