Aled Sion Davies
Fe fydd Aled Siôn Davies ymhlith y para-athletwyr sy’n ymddangos yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain heddiw fel rhan o ddathliadau Diwrnod Cenedlaethol y Gemau Paralympaidd.

Bydd yn gyfle i gefnogwyr gwrdd â’u harwyr fel rhan o ddiwrnod i’r teulu.

Mae digwyddiadau tebyg hefyd yn cael eu cynnal yn Birmingham, Lerpwl a Glasgow heddiw.

Ar y diwrnod, fe fydd cyfle i weld arddangosfeydd nofio, pêl fasged cadair olwyn a boccia, yn ogystal ag arddangosfa gelfyddydol wedi’i threfnu gan bobol fyddar ac anabl.

Bydd rhai o sêr Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Sochi hefyd yn bresennol.

Daw’r digwyddiad wythnos ar ôl i Bencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC ddod i ben yn Abertawe, lle enillodd Aled Siôn Davies dwy fedal aur yn y siot a’r ddisgen.

Ymhlith y para-athletwyr eraill oedd yn Abertawe’r wythnos diwethaf ac a fydd yn bresennol yn Llundain heddiw mae Stef Reid a Jonnie Peacock.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar y wefan http://www.paralympic.org/