Y Seintiau Newydd 6-1 Rhyl
Rhoddodd y Seintiau Newydd gweir i Rhyl gartref er mwyn symud i frig Uwch Gynghrair Cymru, gan rwydo chwe gôl.
Greg Draper oedd y cyntaf i ganfod cefn y rhwyd, gan sgorio ar ôl dwy funud yn unig, cyn i Dave Forbes unioni’r sgôr ar ôl cwarter awr o chwarae.
Ar ôl 19 munud roedd y Seintiau nôl ar y blaen diolch i Sam Finley, ac fe ychwanegodd Alex Darlington drydydd ar ôl hanner awr.
Roedd hi’n bump erbyn yr egwyl, wrth i Draper rwydo’i ail ac Adrian Cieslewicz ychwanegu’i enw at y sgorfwrdd hefyd.
Yn yr ail hanner fe ychwanegodd Aeron Edwards y chweched, gan gwblhau noson siomedig i dîm Rhyl.
Aberystwyth 3-3 Bangor
Fe gipiodd Aberystwyth bwynt hwyr mewn gêm gyffrous ar Goedlan y Parc heno wrth i chwe gôl gael ei sgorio.
Roedd y tîm cartref 2-0 ar y blaen ar yr egwyl, diolch i ergyd Chris Venables ar ôl 25 munud ac yna Stuart Jones ar ôl 37 munud.
Ond yn yr ail hanner fe ddaeth Bangor yn fyw, gyda Declan Walker yn cau’r bwlch ar ôl 48 munud, cyn i ddwy gôl mewn deng munud gan Sion Edwards roi Bangor y blaen hanner ffordd drwy’r ail hanner.
Ond yn ail munud yr amser anfiadau, fe rwydodd Venables eil ail o’r noson o’r smotyn a rhannu’r pwyntiau.
Airbus 3-0 Drenewydd
Fe sicrhaodd Airbus fuddugoliaeth gyfforddus dros y Drenewydd i gipio’u buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.
Ryan Wignall rwydodd y gôl gyntaf ar ôl 36 munud, cyn i Ashley Williams ddyblu’u mantais jyst cyn yr egwyl.
Sgoriodd Matty McGinn y drydedd ar ôl 53 munud, i sicrhau nad oedd ffordd gan y Drenewydd yn ôl mewn i’r gêm.
Derwyddon Cefn 3-2 Gap Cei Cona
Y Derwyddon oedd yn fuddugol mewn gêm o goliau gwych yn erbyn Gap Cei Conah i gipio’u buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.
Gary O’Toole sgoriodd y gôl gyntaf i’r ymwelwyr, cyn i Tom Donegan unioni’r sgôr ar ôl 36 munud wrth gyrlio ergyd i gornel y rhwyd.
Rhoddodd Derek Taylor y Derwyddon ar y blaen pum munud ar ôl yr egwyl gyda gôl unigol wych, cyn i Gary Roberts o Gap Cei Cona weld cerdyn coch.
Fe sicrhaodd Derek Taylor y canlyniad i’r tîm cartref gyda thrydydd gôl yn y pumed munud o amser anafiadau, cyn i Jamie Rainford gau’r bwlch i Gap munud yn ddiweddarach.
Caerfyrddin 2-1 Port Talbot
Roedd gôl gynnar Lewis Harling yn ddigon i roi Caerfyrddin ar eu ffordd i fuddugoliaeth yn erbyn Port Talbot o flaen eu torf gartref.
Rhwydodd Liam Thomas ail gôl i’r Hen Aur dri munud cyn y diwedd, cyn i Bort Talbot gipio un nôl funud yn ddiweddarach drwy Daniel Sheehan.
Roedd Luke Cummings eisoes wedi gweld cerdyn goch i Gaerfyrddin, ond roedden nhw wedi gwneud digon i gipio tri phwynt.