Mae dros fil o gefnogwyr Cymru’n wynebu’r posibilrwydd o orfod newid eu trefniadau ar ôl i FIFA ddyfarnu nad yw cae artiffisial newydd Andorra o safon digon uchel.

Roedd stadiwm cenedlaethol Andorra i fod i gynnal gêm ragbrofol Ewro 2016 yn erbyn Cymru ar 9 Medi.

Ond heddiw fe ddywedodd FIFA nad ydyn nhw’n hapus â safon y cae plastig, a bod gan Andorra tan ddechrau’r wythnos nesaf i wirio’r problemau.

Petai nhw ddim yn llwyddo i wneud hynny, fe fyddai’n golygu fod yn rhaid dod o hyd i stadiwm arall ar gyfer y gêm ar fyr rybudd.

Gallai hyn greu cryn dipyn o drafferth i gefnogwyr oedd wedi bwriadu teithio i’r wlad fechan rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda disgwyl y bydd dros fil o Gymry’n mynd i’r gêm.

Does dim stadiwm arall yn Andorra, ond mae’r wlad wedi chwarae gemau ‘cartref’ rhyngwladol yn Barcelona, Sbaen yn y gorffennol.

Petai’r gêm yn gorfod cael ei symud i Barcelona fe allai hynny fod yn gyfleus i gefnogwyr Cymru, gan fod cannoedd ohonynt wedi bwriadu hedfan i’r ddinas Gatalanaidd cyn teithio draw i Andorra.

Fodd bynnag, fe fyddai’n golygu newid munud olaf yn y trefniadau i unrhyw gefnogwyr sydd wedi bwriadu teithio i Toulouse, y ddinas yn Ffrainc sydd hefyd ychydig oriau o daith o Andorra.

Mae Chris Coleman wedi enwi carfan gref ar gyfer y gêm, y cyntaf o’u hymgyrch ragbrofol newydd. Fodd bynnag ers hynny mae James Collins wedi tynnu nôl ag anaf, gyda Paul Dummett yn cymryd ei le.