Mae llywydd pwyllgor trefnu Pencampwriaethau Athletau Ewrop 2016 yr IPC wedi dweud ei fod yn gobeithio y gall dinas Grosetto yn Yr Eidal efelychu Abertawe ymhen dwy flynedd.

Dywedodd yr IPC ddiwedd yr wythnos diwethaf mai Abertawe gynhaliodd y Pencampwriaethau gorau erioed.

Roedd Sandrino Porru yn bresennol yn Abertawe er mwyn gweld sut roedd y Pencampwriaethau wedi cael eu trefnu.

Mewn datganiad, fe ddywedodd: “Mae Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad da o ran y trefnu.

“Rydyn ni bellach wedi derbyn y baton gan Brydain er mwyn trefnu’r Pencampwriaethau Ewrop nesaf.

“Rydyn ni’n barod am yr her….

“Byddwn ni’n falch o groesawu’r athletwyr a’r timau ymhen dwy flynedd.”

Bydd y Pencampwriaethau nesaf yn cael eu cynnal yn Stadiwm Carlo Zecchini rhwng Mehefin 10-16, 2016.