Aberystwyth 1-1 Y Seintiau Newydd

Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio pwynt hwyr yn erbyn Aberystwyth wrth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru llynedd ymweld â Choedlan y Parc.

Y tîm cartref aeth ar y blaen ar ôl hanner awr o chwarae wrth i Mark Jones fanteisio ar bêl rydd yn y cwrt cosbi i rwydo heibio i Mike Harrison yn y gôl.

Ond gyda deng munud i fynd fe unionodd Sam Finley’r sgôr gydag ergyd isel i gefn y rhwyd er mwyn rhannu’r pwyntiau.

Mae’r ddau dîm bellach yn hafal ar frig y gynghrair, ar ôl ennill eu gemau agoriadol.

Bangor 1-3 Drenewydd

Roedd dwy gôl gynnar i’r Drenewydd yn ddigon o fantais iddyn nhw guro Bangor wrth i’r ddau dîm gwrdd ar lannau’r Fenai.

Luke Boundford sgoriodd y gôl gyntaf i’r ymwelwyr ar ôl dim ond chwe munud, ac roedd y fantais wedi’i dyblu dim ond munud yn ddiweddarach wrth i Jamie Price rwydo’r ail.

Fe darodd Bangor yn ôl ar ôl 27 munud gyda gôl i Chris Jones – a hynny ar ôl i Ryan Edwards fethu cic o’r smotyn i’r tîm cartref – ond gyda rhyw chwarter awr yn weddill fe seliodd Jason Oswell y fuddugoliaeth i’r Drenewydd.

Gap Cei Cona 1-1 Caerfyrddin

Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr, Caerfyrddin aeth ar y blaen yn erbyn Gap Cei Cona diolch i gôl gan David Brooks ar ôl 53 munud.

Ni pharodd y fantais yn hir, fodd bynnag, wrth i Chris Rowntree benio i’r rhwyd lai na deng munud yn ddiweddarach.

Felly’r arhosodd hi, gyda Gap Cei Cona’n casglu eu pwynt cyntaf o’r tymor.

Port Talbot 3-0 Prestatyn

Buddugoliaeth gyfforddus oedd hi i Bort Talbot wrth i Brestatyn orfod teithio yn ôl i’r gogledd yn waglaw.

Rhwydodd Martin Rose y gôl gyntaf ar ôl ymateb yn sydyn i gic rydd Corey Thomas ar ôl 36 munud.

Fe ddyblodd Kieron Lewis y fantais ar ôl 64 munud, cyn i Liam McCreesh gwblhau’r fuddugoliaeth ar ôl chwe munud yn ddiweddarach.

Rhyl 1-1 Derwyddon Cefn

Llwyddodd y Derwyddon Cefn i gipio pwynt yn y Belle Vue wrth i ddau o chwaraewyr Rhyl weld cerdyn coch mewn gêm flêr.

John McKenna welodd y cerdyn gyntaf am droseddu yn y cwrt cosbi, ond yn ffodus i Rhyl fe fethodd Alan Bull y gic o’r smotyn i ddilyn.

Roedden nhw’n difaru methu’r cyfle yna ar ôl 57 munud, wrth i Liam Dawson rwydo i roi Rhyl ar y blaen.

Ond yn fuan wedyn fe gafodd yr ymosodwr Aaron Bowen ail gerdyn coch Rhyl, ac er i’r naw dyn frwydro’n galed fe ddaeth gôl i’r Derwyddon wrth i Derek Taylor sgorio gydag wyth munud yn weddill.

Bala 0-0 Airbus

Di-sgôr oedd hi rhwng Bala ac Airbus ar Faes Tegid, wrth i’r ddau dîm fethu cyfleoedd i ennill.

Roedd yn rhaid i’r ymwelwyr chwarae â deg dyn am y Cwarter awr olaf ar ôl i Lee Owens weld cerdyn coch.

A bu bron i’r tîm orffennodd yn ail yn y gynghrair llynedd dalu’n ddrud am hynny, wrth i Mark Connolly daro’r trawst i Bala yn y munud olaf.