Mark Hudson
Wolves 1 – 0 Caerdydd
Daeth rhediad cynnar di-guro Caerdydd i ben yn Wolverhampton heddiw, diolch i gôl hwyr.
Bu bron i Gaerdydd fynd ar y blaen yn fuan yn y gêm wrth i gic gornel Bakary Sako daro ochr fewn y postyn.
Wolves oedd y tîm gorau am y mwyafrif o’r hanner cyntaf, ond daeth cyfle cyn yr egwyl i Matthew Connolly o Gaerdydd, ond cliriwyd ei ymdrech gan Richard Stearman.
Roedd Kenwyne Jones yn agos at gipio’r fuddugoliaeth i’w dîm yn hwyr yn y gêm hefyd, ond arbedwyd ei ergyd han golwr Wolves Carl Ikeme.
Daeth cyfleoedd pellach i’r ymwelwyr trwy Sean Morrison a Peter Whittingham.
Un o chwaraewyr Caerdydd fyddai’n sgorio’r gôl dyngedfennol yn yr amser a ychwanegwyd am anafiadau. Yn anffodus i’r amddiffynwr Mark Hudson, i’w rwyd ei hun y peniodd, gan roi buddugoliaeth sy’n codi Wolves i’r pedwerydd safle yn y tabl.