Nathan Dyer
Abertawe 1 – 0 Burnley
Wedi dwy gêm, mae Abertawe’n llwyddo i gynnal eu record 100% wedi buddugoliaeth yn erbyn Burnley heddiw.
Roedd gôl gan yr asgellwr Nathan Dyer yn ddigon i’r Elyrch yn eu gêm gartref gyntaf o dymor newydd Uwch Gynghrair Lloegr.
Roedd Dyer, a’r asgellwr arall, Wayne Routledge yn fygythiad cyson i Burnley trwy gydol y prynhawn.
Fe greodd Routledge gyfleoedd cynnar i Wilfried Bony a Gylfi Sigurdsson, ond Dyer oedd i sgorio gyntaf.
Wedi pas dreiddgar gan Sigurdsson, rhuthrodd Dyer i mewn i’r blwch cosbi, gan ergydio heibio i Tom Heaton yn y gôl i’r ymwelwyr.
Roedd cyfle i Burnley cyn yr egwyl diolch i Danny Ings, ond roedd Abertawe’n haeddu arwain ar yr hanner.
Gwellodd Burnley wedi’r egwyl, a daeth cyfleoedd i Lukas Jutkiewicz a David Jones, ond llwyddodd amddiffyn Abertawe i ddal eu tir a sicrhau tri phwynt arall i ddynion Garry Monk